The Hound of the Baskervilles
Clawr yr argraffiad 1af | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Arthur Conan Doyle |
Cyhoeddwr | George Newnes Ltd |
Gwlad | Lloegr |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1902 |
Genre | ffuglen dditectif, ffuglen drosedd, ffuglen dirgelwch |
Cyfres | nofelau Sherlock Holmes, Rhestr o lyfrau Sherlock Holmes |
Rhagflaenwyd gan | The Memoirs of Sherlock Holmes |
Olynwyd gan | The Return of Sherlock Holmes |
Cymeriadau | Dr. John Watson, Sherlock Holmes, Henry Baskerville, Arolygydd Lestrade |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Lleoliad y gwaith | Dartmoor, Llundain, Dyfnaint |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae The Hound of the Baskervilles yn nofel am y ditectif Sherlock Holmes a ysgrifennwyd gan Syr Arthur Conan Doyle.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Cyhoeddwyd The Hound of the Baskervilles yn wreiddiol fel stori gyfres yn The Strand Magazine rhwng Awst 1901 ac Ebrill 1902. Cyhoeddwyd fel llyfr ym 1902. Mae'r stori wedi'i osod yn bennaf yn ardal Dartmoor yn Nyfnaint.[2]
Ysgrifennodd Syr Arthur Conan Doyle y stori hon yn fuan ar ôl dychwelyd o Dde Affrica, lle'r oedd wedi gweithio fel meddyg gwirfoddol yn Ysbyty Maes Langman yn Bloemfontein yn ystod Ail Ryfel y Boer. Nid oedd wedi ysgrifennu am Sherlock Holmes am wyth mlynedd, ar ôl lladd y cymeriad yn stori 1893 The Final Problem. Er bod The Hound of the Baskervilles wedi'i osod cyn y digwyddiadau'r stori honno. Ddwy flynedd yn ddiweddarach daeth Conan Doyle â Holmes yn ôl am byth, gan egluro yn " The Adventure of the Empty House" bod Holmes wedi ffugio'i farwolaeth ei hun.[3]
Honnwyd bod Neuadd Baskerville wedi'i seilio ar eiddo yng Nghleirwy, Powys a adeiladwyd ym 1839 gan ddyn o'r enw Thomas Mynors Baskerville. Enw blaenorol y tŷ oedd Clyro Court ac fe’i hailenwyd yn Neuadd Baskerville tua diwedd y 20g. Mae'n debyg bod Arthur Conan Doyle yn ffrind teulu a arhosai yno'n aml ac a allai fod yn ymwybodol o chwedl leol am gŵn dieflig.[4]
Yn 2003, rhestrwyd y llyfr fel rhif 128 o 200 ym mhôl piniwn Big Read y BBC o nofelau fwyaf poblogaidd y DU.
Prif gymeriadau
[golygu | golygu cod]- Sherlock Holmes: Ditectif ymgynghorol enwog.
- Dr Watson: Cyfaill a chynorthwyydd Holmes.
- Syr Henry Baskerville: Nai i Syr Charles Baskerville, y mae marwolaeth ddirgel ei ewyrth yn gadael y dyn ifanc ffortiwn, ystâd a barwnigaeth.
- Dr James Mortimer: Cyfaill a meddyg Syr Charles Baskerville.
- Mr & Mrs Barrymore: Bwtler a morwyn teulu Baskerville
- Jack Stapleton: Cymydog a chasglwr pili-palaod.
- Beryl Stapleton:Chwaer olygus Jack
- Mr Frankland: Hen ddyn blin a busneslyd
- Laura Lyons: Merch chwerw Frankland
- Seldon: Troseddwr sydd wedi ffoi o'r carchar
- Arolygydd Lestrade Arolygydd o Scotland Yard
Plot
[golygu | golygu cod]Agoriad
[golygu | golygu cod]Mae Dr James Mortimer yn gofyn i Sherlock Holmes am gyngor ar ôl i’w ffrind Syr Charles Baskerville gael ei ddarganfod yn farw yn y parc o amgylch ei blasty, yn rhostiroedd Dyfnaint. Priodolwyd y farwolaeth i drawiad ar y galon, ond yn ôl Mortimer, roedd golwg o arswyd mawr ar wyneb Syr Charles ar adeg ei farwolaeth. Yn agos i'r corff roedd olion traed ci enfawr i'w gweld yn glir. Yn ôl hen chwedl, roedd melltith ar deulu Baskerville ers cyfnod Rhyfel Cartref Lloegr, pan gipiodd a llofruddiodd Syr Hugo Baskerville fenyw ar Dartmoor. Ychydig wedi'r llofruddiaeth cafodd Syr Hugo ei ladd gan gi dieflig enfawr. Honnir bod yr un creadur wedi bod yn aflonyddu ar y lle byth ers hynny, gan achosi marwolaeth gynamserol llawer o etifeddion Baskerville. Roedd Syr Charles yn credu yn chwedl y ci, fel roedd Mortimer, sydd bellach yn ofni am yr etifedd nesaf, Syr Henry Baskerville.[6]
Yn Llundain
[golygu | golygu cod]Er ei fod yn diystyru'r stori felltith fel nonsens llwyr, mae Holmes yn cytuno i gwrdd â Syr Henry yn Llundain cyn gynted ag y bydd ef yn cyrraedd o Ganada, lle'r oedd ei gangen ef o'r teulu wedi mudo yn y gorffennol. Mae Syr Henry ŵr ifanc a golygus. Mae yntau yn cytuno â Holmes bod chwedl y ci dieflig yn lol, ac mae'n awyddus i feddiannu Neuadd Baskerville. Wedi cyrraedd Llundain mae'n derbyn nodyn anhysbys yn y post, sy'n ei rybuddio i gadw draw o'r rhostir. Pan fydd rhywun yn ceisio saethu Syr Henry tra ei fod yn cerdded i lawr stryd, fodd bynnag, mae Holmes yn gofyn i Watson fynd gyda’r dyn ifanc a Mortimer i Dartmoor, er mwyn amddiffyn Syr Henry a chwilio am unrhyw dystiolaeth ynglŷn â phwy sy’n ei fygwth.[7]
Yn Dartmoor
[golygu | golygu cod]Mae Watson, Baskerville a Mortimer yn cyrraedd Neuadd Baskerville, hen blasty mawreddog yng nghanol parc helaeth, a reolir gan fwtler a morwyn tŷ. Mae'r ystâd wedi'i hamgylchynu gan y rhostir ac yn ffinio â Gors Grimpen, tir gwlyb a llidiog lle gall anifeiliaid a bodau dynol suddo i farwolaeth mewn sugndraeth. Mae'r newyddion bod troseddwr o'r enw Selden wedi dianc o'r carchar lleol a'i fod yn cuddio yn y bryniau cyfagos yn ychwanegu at awyrgylch dywyll y lleoliad.
Mae digwyddiadau anesboniadwy yn ystod y noson gyntaf yn cadw'r gwesteion yn effro. Dim ond pan ddaw golau dydd y gall Watson a Syr Henry ymlacio wrth archwilio'r gymdogaeth a chwrdd â thrigolion rhyfedd y fro. Mae Watson yn dal i chwilio am unrhyw dystiolaeth i ganfod pwy sy'n bygwth bywyd Syr Henry. Mae'n danfon telegramau gyda manylion ei ymchwiliad i Holmes. Ymhlith y brodorion, mae'r brawd a chwaer Stapleton, yn sefyll allan fel rhai amheus. Mae Jack Stapleton yn or-gyfeillgar ac ychydig yn rhy chwilfrydig tuag at y newydd dyfodiaid, tra bod Beryl Stapleton, ei chwaer, i'w gweld yn ofnadwy o ofidus yn eu cwmni.[8]
Mae Watson yn clywed udo yn y pellter ac yn gweld pethau rhyfedd yn ystod ei deithiau cerdded hir ar y bryniau sydd yn peri pryder iddo. Nid yw ei bryderon yn cilio pan fydd tu mewn i Neuadd Baskerville chwaith. Mae'n amheus o’r bwtler, Barrymore, sydd i'w weld fel pe bai’n arwyddo o ffenest y tŷ gyda channwyll i rywun ar y rhostir. Yn y cyfamser mae Syr Henry yn cael ei denu at Beryl, sy'n ymddangos fel petai'n ofni barn ei brawd am eu perthynas. I ddrysu'r sefyllfa ym mhellach mae Mortimer yn rhy awyddus i argyhoeddi Syr Henry fod y felltith yn un go iawn. Mae cymydog hen a blin sy'n hoffi busnesu gyda'i delesgop trwy edrych i mewn i dai pobl eraill codi amheuon Watson fel mae ei ferch Laura, a oedd â chysylltiadau aneglur â Syr Charles. Mae dyn barfog yn crwydro yn y bryniau ac yn ôl pob golwg yn cuddio mewn lle mae beddrodau hynafol wedi’u cloddio gan Stapleton at bwrpas aneglur.
Y datrysiad
[golygu | golygu cod]Yn anhysbys i bawb, hyd yn oed i'w ffrind Watson, mae Sherlock Holmes wedi bod yn cuddio yn y rhostir trwy'r amser ac wedi datrys y dirgelwch (ef oedd y dyn barfog yn crwydro'r bryniau). Mae'n datgelu bod y ci yn un go iawn ac yn perthyn i Stapleton. Bod Stapleton wedi ffugio caru Laura ac wedi ei hargyhoeddi i ddenu Syr Charles allan o'i dŷ gyda'r nos, er mwyn ei ddychryn i farwolaeth gan ymddangosiad o'r ci chwedlonol. Mae Beryl, mewn gwirionedd, yn wraig i Jack, sy'n ei cham-drin hi ac wedi ei gorfodi i gogio bod yn chwaer iddi er mwyn hudo Syr Henry er mwyn ei gael o i fynd at y lle mae'r ci yn aros er mwyn i'r ci ei ladd ef hefyd.
Mae'r bwtler, Barrymore, yn hanner frawd i Seldon, y troseddwr sydd ar ffo, ac mae o wedi rhoi rhai o ddillad Syr Henry iddo fel cuddwisg. Mae Stapleton yn danfon y ci ar ôl Selden ar gam, ac mae'r ci yn lladd y troseddwr.
Yn anffodus nid yw'r dystiolaeth a gasglwyd yn ddigon i reithgor gondemnio Stapleton, felly mae Holmes yn penderfynu defnyddio Baskerville fel abwyd i'w dal. Byddai Syr Henry yn derbyn gwahoddiad i dŷ Stapleton a byddai'n cerdded yn ôl wedi iddi nosi, gan roi pob cyfle i’w elyn ryddhau’r ci arno. Mae Holmes a Watson yn esgus gadael Dartmoor ar y trên, ond yn lle hynny maen nhw'n cuddio ger tŷ Stapleton gyda'r Arolygydd Lestrade o Scotland Yard. Er gwaethaf y niwl tywyll a thrwchus, mae Holmes a Watson yn llwyddo lladd y bwystfil ofnadwy cyn iddo gael cyfle i ymosod. Mae Stapleton, yn ceisio rhedeg i ffwrdd ond yn syrthio i mewn i'r gors lle mae'n boddi.
Mae Holmes yn datgelu ei fod wedi canfod yr allwedd i'r cynllwyn wrth sylweddoli bod Stapleton yn rhannu rhai o nodweddion corfforol y llun o'r Syr Hugo Baskerville drygionus oedd yn cael ei bortreadu mewn darlun yn y plasty. Ei enw go iawn oedd Rodger Baskerville, mab i frawd iau Syr Charles a chefnder i Syr Henry. Roedd Rodger hefyd yn dwyllwr ac yn lleidr oedd wedi gorfod ffoi o'i gartref yng Nghanolbarth America wedi cael ei dal yn twyllo arian gan y llywodraeth. Fel aelod o'r teulu roedd yn gwybod am chwedl y ci ac o'i ddefnyddio i achosi marwolaeth ei ewythr a'i gefnder mi fyddai'n dod yn etifedd ystâd a barwnigaeth Baskerville.[9]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "The Hound of the Baskervilles - The Arthur Conan Doyle Encyclopedia". www.arthur-conan-doyle.com. Cyrchwyd 2020-02-18.
- ↑ "The Hound of the Baskervilles | Summary & Facts". Encyclopedia Britannica. Cyrchwyd 2020-02-18.
- ↑ "An introduction to The Hound of the Baskervilles". The British Library. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-08. Cyrchwyd 2020-02-18.
- ↑ Devine, Darren (2013-03-10). "Mansion said to have inspired The Hound of the Baskervilles on sale for £3m". walesonline. Cyrchwyd 2020-02-18.
- ↑ "The Hound of the Baskervilles plot summary - Schoolbytes". www.schoolbytes.com. Cyrchwyd 2020-02-18.
- ↑ "SparkNotes: Hound of the Baskervilles: Plot Overview". www.sparknotes.com. Cyrchwyd 2020-02-18.
- ↑ "The Hound of the Baskervilles Summary | Shmoop". www.shmoop.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-02-18. Cyrchwyd 2020-02-18.
- ↑ GradeSaver. "The Hound of the Baskervilles Summary | GradeSaver". www.gradesaver.com. Cyrchwyd 2020-02-18.
- ↑ "FREE CRITICAL ANALYSIS of The Hound of the Baskervilles - Book Notes/Chapter Summary/Free Notes/Analysis/Online/Download-Sir Arthur Conan Doyle". thebestnotes.com. Cyrchwyd 2020-02-18.