Tir Iarll
Math | ardal, cwmwd |
---|---|
Cysylltir gyda | Diwylliant Cymraeg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bro Morgannwg |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.561°N 3.67°W |
Mae Tir Iarll yn ardal, a fu gynt yn gwmwd, ym Morgannwg sy'n cynnwys plwyfi Llangynwyd, Betws, Cynffig a Margam.
Cafodd yr enw am iddo syrthio i feddiant Iarll Caerloyw yn sgîl Goresgyniad y Norman.
Mae wedi bod yn fagwrfa i feirdd o gyfnod cynnar ac wedi ennill le arbennig iddo'i hun yn hanes llenyddiaeth Gymraeg. Mae'r beirdd a gysylltir â Thir Iarll trwy eu genedigaeth neu eu gwaith yn cynnwys Rhys Brydydd, ei fab Rhisiart ap Rhys, Gwilym Tew a fu'n berchen ar Lyfr Aneirin am gyfnod, y pencerdd Lewys Morgannwg (fl. 1520-1565), Siôn Bradford, Dafydd Benwyn. Yn ddiweddarach, ffugiodd Iolo Morganwg lawer o gerddi a dogfennau sy'n ymwneud â Thir Iarll a'i droi yn fagwrfa beirdd a etifeddasai ddysgeidiaeth y derwyddon ac a gynhaliai ddefodau 'Gorsedd Beirdd Ynys Prydain' dros y canrifoedd.
Roedd diwylliant Cymraeg yr ardal yn unigryw. Dyma fro oedd yn enwog am ei chwndidau a'i thribannau. Roedd gan y fro draddodiad llên gwerin cryf. Ym mhlwyf Llangynwyd ("yr henblwyf") y blodeuodd y Fari Lwyd, er enghraifft. Yn Nhir Iarll hefyd y mae Cefn Ydfa, cartref Ann Maddocks, "Y Ferch o Gefn Ydfa".
Mae un o gerddi grymusaf a mwyaf adnabyddus y prifardd Gerallt Lloyd Owen yn deyrnged i'r Tir Iarll a fu. Dyma ran ohono:
- Bu'r hen iaith ar y bryniau hyn
- yn aflonyddu flynyddoedd
- yn ôl, hen iaith
- ein hatgofion ni.
- (Cerddi'r Cywilydd)
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948)