Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                
Neidio i'r cynnwys

UMCA

Oddi ar Wicipedia
UMCA
Math o gyfrwngundeb myfyrwyr Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1974 Edit this on Wikidata

Sefydlwyd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, neu UMCA, yn 1974 gan Wayne Williams a Rhodri Thomas i gynrychioli buddiannau myfyrwyr Cymraeg eu hiaith sy'n mynychu Prifysgol Cymru Aberystwyth gan fod yr Undeb Myfyrwyr yn anwybyddu anghenion ieithyddol a diwylliannol y myfyrwyr Cymraeg. Rhodri Thomas oedd Cadeirydd y Pwyllgor Llywio a Wayne Williams oedd yr ysgrifennydd. Wayne Williams greodd logo gynta’r Undeb. Teithiodd Rhodri a Wayne i Fangor a pherswadio myfyrwyr Cymraeg Bangor i sefydlu Undeb gyffelyb. UMCA sydd yn trefnu Sŵn bob mis a'r Ddawns Ryng-Golegol yn flynyddol. Lleolir swyddfa'r undeb yn Neuadd Pantycelyn.

Mae gan yr undeb rôl ganolog yn natblygiadau ieithyddol Cymru. Yn ddiwylliannol mae UMCA wedi bod yn allweddol yn cynhyrchu artistiaid mwyaf blaenllaw'r sin megis bandiau diweddar Yr Ods ac Ysgol Sul[1]. Hefyd gweler datblygiadau gwleidyddol yn cael ei chynnal gan yr Undeb megis yr ymgyrch i sefydlu Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yn ddiweddarach ymgyrch Achub Pantycelyn l a gafodd sylw cenedlaethol gyda bygythiadau ymprydio a myfyrwyr yn meddiannu Pantycelyn.[2] Yn ôl ymroddiad Cyngor y Brifysgol mi fydd Pantycelyn yn cael ei ail agor ar ei newydd wedd erbyn Medi 2019.[3]

Ym mis Awst 2016 cyhoeddodd UMCA logo newydd fel modd o esblygu'r Undeb i'r deugain mlynedd nesaf.[4] O ganlyniad i ddatblygiadau y brifysgol i gynyddu darpariaeth Cyfrwng Cymraeg mi fydd Aelolaeth UMCA am ddim.[5] Gallogai'r aelodaeth am ddim bod pawb sy'n medru'r Gymraeg yn y Brifysgol yn aelodaeth awtomatig o UMCA.[6]

Eisteddfod Ryng-golegol

[golygu | golygu cod]

Yn flynyddol mae UMCA yn cystadlu yn yr Eisteddfod Ryng-golegol sy'n teithio o amgylch brifysgolion Cymru. Cynhelir cystadlaethau chwaraeon, gig gyda'r hwyr ac Eisteddfod danllyd yn ystod y dydd. Yn wahanol i nifer o Eisteddfodau mae'r un rhwng y myfyrwyr yn fwy swnllyd gyda chystadleuaeth megis Bing Bong yn cael ei gynnal yn 2017

Yn 2017 fe ddaeth Aberystwyth yn ail, ond uchafbwynt y penwythnos oedd Carwyn Eckley myfyriwr yn astudio Cymraeg yn ei drydedd flwyddyn yn cipio'r gadair o dan y testun yr Arwr.[7] Fe gystadlodd Cymdeithas Cymraeg Lerpwl am y tro cyntaf erioed.

Cyn-aelodau nodedig

[golygu | golygu cod]

Llywyddion UMCA

[golygu | golygu cod]

Dolenni

[golygu | golygu cod]

Gwefan UMCA Archifwyd 2014-02-08 yn y Peiriant Wayback

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. https://www.umaber.co.uk/eich-undeb/umca/sngerddorolumca/
  2. [1] BBC Report overhaul call for Welsh Pantycelyn halls, Aberystwyth 20 Mai, 2015
  3. [2] Golwg 360 Prifysgol yn cymeradwyo ailagor Pantycelyn, 29 Mehefin 2016
  4. [3] BBC UMCA: Yr hen a'r newydd 17 Awst, 2016
  5. Aberystwyth, Prifysgol 06 Rhagfyr (2016) https://www.aber.ac.uk/cy/news/archive/2016/12/title-195139-cy.html
  6. [4] BBC Cymru Fyw. 18/08/2016
  7. http://archif.rhwyd.org/ycymro/newyddion/c/x44/i/5106/desc/carwyn-eckley-yn-cipior-gadair-yn-eisteddfod-ryng-golegol-2017/
  8. Golwg 360 (Mawrth 22, 2017) Llywydd newydd UMCA am weld Pantycelyn yn “ganolbwynt” http://golwg360.cymru/newyddion/cymru/258078-llywydd-newydd-umca-am-atgyfnerthu-statws-pantycelyn-fel-canolbwynt-ir-cymry
  9. "Llywyddion newydd i undebau Cymraeg y myfyrwyr". BBC Cymru Fyw (yn Saesneg). 2018-03-20. Cyrchwyd 2018-08-30.
  10. "Canlyniadau Etholiadau Swyddogion UM 2021". www.umaber.co.uk. Cyrchwyd 2021-06-15.
  11. "Swyddogion Myfyrwyr". www.umaber.co.uk. Cyrchwyd 2022-07-26.
  12. "Tudalen Facebook UMCA". Facebook.