Unben
Gwedd
Person sy'n cymryd awennau'r llywodraeth yn gyfangwbl i'w ddwylo ei hun, yn enwedig trwy ddulliau anghyfansoddiadol megis coup d'état, ac sy'n rheoli gwlad gyda grym absoliwt yw unben. Gelwir ei lywodraeth yn unbennaeth.
Geirddarddiad
[golygu | golygu cod]Daw'r gair Cymraeg unben o'r elfennau 'un' + 'pen' (pennaeth, rheolwr). Sylwer, fodd bynnag, fod unben (benywaidd: unbennes) yn air Cymraeg Canol digon parchus, sy'n golygu "teyrn" neu "uchelwr"; ceir sawl enghraifft ohono fel cyfarchiad yn y Pedair Cainc.[1] Y gair cyfatebol yn Saesneg a rhai ieithoedd eraill yw dictator (neu ffurf debyg), o'r gair Lladin dictatus. Tardda o gyfnod y Rhufain Hynafol pan roddwyd grym absoliwt i reolwr, dros dro yn unig, mewn argyfwng gwladol.
Rhai unbeniaid enwog
[golygu | golygu cod]- Nicolae Ceauşescu (Rwmania)
- Adolf Hitler (Yr Almaen)
- Y Cadfridog Francisco Franco (Sbaen)
- Kim Jong-il (Gogledd Corea)
- Benito Mussolini (Yr Eidal)
- Y Cadfridog Augusto Pinochet (Tsile)
- Pol Pot (Cambodia)
- Joseff Stalin (Undeb Sofietaidd)
- Mao Zedong (Gweriniaeth Pobl Tsieina)
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- The Great Dictator, ffilm gomedi fwrlesg gan Charlie Chaplin sy'n dychanu'r unben 'Adenoid Hynkel' (Adolf Hitler).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru, cyfrol 4, tud. 3704.