Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                
Neidio i'r cynnwys

Valentinian I

Oddi ar Wicipedia
Valentinian I
Ganwyd3 Gorffennaf 321 Edit this on Wikidata
Pannonia Secunda, Vinkovci Edit this on Wikidata
Bu farw17 Tachwedd 375 Edit this on Wikidata
o gwaedlif ar yr ymennydd Edit this on Wikidata
Brigetio Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol, yr Ymerodraeth Fysantaidd Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddseneddwr Rhufeinig, ymerawdwr Rhufain Edit this on Wikidata
TadGratian Edit this on Wikidata
PriodMarina Severa, Justina Edit this on Wikidata
PlantGratianus, Galla, Valentinian II, Grata Edit this on Wikidata
LlinachValentinianic dynasty Edit this on Wikidata

Flavius Valentinianus (32117 Tachwedd 375), mwy adnabyddus fel Valentinian I, oedd ymerawdwr Rhufain yn y gorllwein o 364 hyd 375.

Ganed Valentinian yn Cibalis yn nhalaith Pannonia. Ymunodd a’r fyddin a daeth yn swyddog yn y gard, gan godi i safle uchel yn ystod teyrnasid Julian a Jovian trwy ei ddewrder a’i allu milwrol. Cyhoeddwyd ef yn ymerawdwr gan y fyddin wedi marw Jovian. Roedd yn 44 oed pan ddaeth yn ymerawdwr ar 28 Chwefror 364. Yn fuan wedyn penododd ei frawd Valens fel cyd-ymerawdwr.

Daeth y ddau frawd i gytundeb yn Naissus (Nissa) i rannu’r ymerodraeth rhyngddynt, gyda Valentinian yn cymryd Italia, Iliria, Hispania, Gal, Prydain ac Africa.

Yn ystod teyrnasiad Valentinian bu rhyfeloedd yn Affrica, ar ffin Afon Rhein ac ym Mhrydain. Daeth y Rhufeiniaid i wrthdrawiad a phobloedd nad oedd son amdanynt cynt, y Bwrgwndiaid, y Sajones a’r Alamanes.. Bu hefyd ymgais gan Procopius, perthynas i Julian, i’w sefydlu ei hun fel ymerawdwr, ond llwyddodd Valens i’w orchfygu yn 366. Roedd rhaid i’r ymerawdwr warchod y ffiniau yn barhaus, a bu’n defnyddio Milan fel canolfan, ac yn ddiweddarach Paris a Rheims. Llwyddodd i orchfygu’r llwythi Almaenaidd a’u gyrru o ochr orllewinol Afon Rhein. Ymosodasant ar draws y Rhein eto a chipio Moguntiacum (Maguntia), ond gallodd Valentinian eu gorchfygu yn Solicinium.

Roedd hefyd yn gorfod delio ag ymosodiadau gan y Sacsoniaid, y Pictiaid a’r Sgotiaid ar dalaith Prydain. Yn 368 gyrrodd Theodosius i ddelio a’r perygl.

Yn 374 croesodd llwyth y Quados dros Afon Donaw a meddiannu rhan o Pannonia. Yn Ebrill y flwyddyn wedyn cyrhaeddodd yr ymerawdwr i’r ardal gyda byddin niferus. Bu cyfarfod rhyngddo ef a dirprwyon y Quados yn Brigetio, ond aeth yn helynt a tharawyd yr ymerawdwr are i ben. Bu farw o’r anaf ar 17 Tachwedd.

Rhagflaenydd:
Jovian
Ymerawdwr Rhufain
364375
gyda Valens
Olynydd:
Valens, Gratianus
a Valentinian II