Viacom
Math | busnes |
---|---|
ISIN | US92553P1021 |
Diwydiant | y diwydiant cyfryngau |
Sefydlwyd | 31 Rhagfyr 2005 |
Daeth i ben | 4 Rhagfyr 2019 |
Pencadlys | One Astor Plaza |
Pobl allweddol | (Prif Weithredwr) |
Cynnyrch | meddalwedd |
Refeniw | 25,285,000,000 $ (UDA) (2020) |
Incwm gweithredol | 4,139,000,000 $ (UDA) (2020) |
Cyfanswm yr asedau | 52,663,000,000 $ (UDA) (2020) |
Nifer a gyflogir | 11,200 (2017) |
Rhiant-gwmni | S&P 500 National Amusements |
Is gwmni/au | Paramount Media Networks |
Lle ffurfio | Dinas Efrog Newydd |
Gwefan | http://www.viacom.com/ |
Casgliad o gwmnïau cyfryngau Americanaidd yw Viacom. Daeth y cwmni presennol, Viacom Inc, i fodolaeth yn dilyn ei ymwahaniad o'r cwmni Viacom gwreiddiol ar 31 Rhagfyr 2005. Ar yr un pryd, newidiodd y cwmni Viacom gwreiddiol ei enw i CBS Corporation.
Prif fusnesau Viacom yw ei rhwydweithiau teledu cebl a brandiau adloniant, gan gynnwys MTV Networks (MTV, Nickelodeon, VH1, Comedy Central a rhwydweithiau eraill dros y byd), y grŵp cynhyrchu ffilmiau Paramount Pictures (sy'n cynnwys DreamWorks), Paramount Home Entertainment, BET, a Famous Music.
Mae cyfranddaliadau Viacom wedi'u rhestru ar Gyfnewidfa Stoc Efrog Newydd, ond rheolir y cwmni gan ei gadeirydd, Sumner Redstone, trwy ei gwmni National Amusements, Inc., sy'n berchen yn anuniongyrchol ar y mwyafrif o gyfranddaliadau Viacom.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan Viacom (yn Saesneg)