Wici Cofi
Dyma Wici Cofi, lle gellir rhoi hanesion, straeon ac atgofion am dref Caernarfon. Sefydlwyd hyn gan Gymdeithas Ddinesig Caernarfon
Tarddiad 'Cofi'
[golygu | golygu cod]Gwyr pawb mai Cofis y gelwir pobl Caernarfon, ond nid yw'r gair yn unigryw i Gaernarfon; mae hyn yn digwydd mewn o leiaf dau le arall. Deellir mai 'Coves' maent yn galw pobl Steòrnabhagh (Stornoway), gan ferch o'r dref. Hefyd 'Covey' y gelwir trigolion Cathair na Mart (Westport) yn Iwerddon gan bobl Castlebar a'r ardal gyfagos. Ystyr Cofi, gwelwch Geiriadur Prifysgol Cymru, https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html
Enghreifftiau o'r gwaith a gasglwyd
[golygu | golygu cod]Clytiau Sgota Pysgotwyr Caernarfon ar Y Fenai a Bae Caernarfon
[golygu | golygu cod]Dyma gasgliad o enwau ar glytiau pysgota gan Tony Lovell, un o ‘sgotwyr “samons” olaf Caernarfon. Mae’r enwau hyn wedi cadw ar lafar dros o leiaf dair cenhedlaeth. Dyma'r tro cyntaf i lawer o'r geiriau hyn gael eu cofnodi ar y we.
- 'Traeth Gwyn,' Ger trwyn y Belan, byddai’r hogiau yn dal whitebait yma.
- 'Glasddwr' Lliw'r dŵr
- 'Bwi “Nymbar 9”' Safle bwi yw hwn
- 'Treasure Island' Llecyn yng nghanol y Fenai gyferbyn a Chaernarfon, y rheswm am yr enw yw bod y safle yma’n le da i ddal pysgod
- 'Coffee Bay' Ger Ala Las, lliw'r dŵr yn y llecyn hwn sy’n gyfrifol am yr enw yma. Mae yna ambell un yn dal i'w ddefnyddio
- 'Tŷ Kelly' Llecyn ger tŷ ble roedd rhywun o’r enw Kelly yn byw yno.
- 'Twm Grafal' Ar ochr ddeheuol Traeth Melyn, llygriad i tywyn yw Twm.
- 'Southcrook' Y trwyn ar forglawdd Abermenai mae hwn ac mae’r edrych yr un siâp a phen ffon
- 'Ynys Lom' Dim ond ar lanw uchel mae’r llecyn yma’n ymddangos fel ynys ger ceg yr afon braint yn nhraeth Melyn
- 'Afon Nigar' Afon Rhyddgaer yw enw'r Braint gan bysgotwyr Môn. Llygriad o Cwningar yw Nigar. (H.W.O.)
- 'Cei Bach' Llecyn ar drwyn penrhyn Morfa Dinlle ger Caer y Belan
- 'Trwyn y Monk' Safle rhwng Abermenai a thraeth Niwbwrch, ble suddodd cwch o’r enw The Monk ar fordaith o Borth Dinllaen i Lerpwl yn 1843.[1] Mae'r trwyn sydd ond yn ymddangos ar drai, ac i’w weld yn glir o Rosgadfan.
- 'Sianel Gwyr Nefyn' neu 'Sianel Gw'r Nefyn'. Enw a ddefnyddiwyd yn hollol naturiol ar lafar, ond heb ymwybod i’r hogiau bod yr enw hwn yn un hen iawn sy’n ymddangos ar fap Lewis Morris 1748. Sianel o ddŵr tyfn oedd hwn a ddefnyddiwyd fel ffordd fyrrach o fynd a dod o gyfeiriad Nefyn.Daw'r gair 'Gwr' o'r gair 'cwfwr', 'Sianel Cwfwr Nefyn' yn wreiddiol, sydd wedi mynd yn 'Sianel Gw'r Nefyn'.
- 'Tocyn Isaf a Thocyn Tŷ Calch'. Ger Tŷ Calch, ceir dau lecyn bychan o’r enw Tocyn Tŷ Calch a Thocyn Uchaf, sef dau bentwr o gerrig sy'n bodoli hyd heddiw, roedd yn rhwyd yn cael ei roi allan o un llecyn a’r rhaff hir ym mhen arall y rhwyd. Byddai’r rhaff yn cael ei thynnu i mewn a’r rhwyd wedyn yn cau i siâp U a’i thynnu i’r lan. Byddai gwaith yma'n digwydd unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos oherwydd y llanw. Mae’n bosib gweld y rhain ar y llanw isaf un. Lleihad yn nifer yr eogiaid ddaeth a diwedd i’r traddodiad hwn yng Nghaernarfon.
- 'Dead Man's Bwi'. Y bwi olaf, yn dilyn dau neu dri bwi ar ffurf 'polion' sy'n tywys llongwrs o'r Cei Llechi, heibio i Borth yr Aur ac allan i brif sianel y i'r Fenai.
- 'Cyrtsi Bwi' (Courtesy Buoy). Bwi tua dau gan llath o bont yr Aber i gyfeiriad yr Foryd. Bwi ar gyfer cychod oedd methu â dod i mewn i Gei Llechi oherwydd amser y llanw.
- Gwter Fawr. Sianel rhwng y twyni tywod yng nghanol Y Fenai., dros ffordd I Morrissons rwan.
Rhestr o byllau pysgota afon Saint yng Nghaernarfon
[golygu | golygu cod]- 'Fflatiau Incinerator' - lle llosgi sbwriel ger yr hen dump.
- 'Llyn Du' – Llyn o dan gysgod y coed ac orherwydd yn edrychyn ddu.
- 'Llyn Whisgin' - Ger tcartref Major Whisgin
- 'Llyn Crwn' siap y pwll
- 'Llyn Butt' ger Lledwigan
- 'Llyn Mwnci' – oherwydd siap y tro ynddo. Mwnci yn enw ar ran o goler ceffyl.
- 'Llyn Wercws' - o dan yr hen Workhouse
- 'Llyn Peipan Ddwr' Peipen ddwr yn cyflenwi dwr i Gaernarfon yn croesi yma
- 'Llyn Crew' - lle roedd plant stad Ysgubor goch yn nofio. Criw, dyma darddiad tref Crewe yn Lloegr
- 'Llyn Garnage'[2].
Afon Saint yw'r enw cywir am yr afon nid Seiont, yn ôl yr Athro Gwynedd Peirce, brodor o Gaernarfon.
Termau Gan Tony Lovell
[golygu | golygu cod]- 'Brishyn o wynt'. Sgota gyda’r nos, Brishyn gwynt braidd yn gryf, ac yn ôl y diweddar Ned Lovell Caernarfon “erbyn nosi eith hwn i lawr”
- 'Teid 17' Llanw uchel 17 troedfedd efo gwynt pob tro
- Teid Darci, neu Darci drwodd mynd allan pan oedd y llanw yn addas yn hywr yn y nos, ar ol 10 o'r gloch. Amser mynd allan oedd 4 awr ar ol penllanw.
- Teid bach y bore allan tua 2-3 a dod i mewn ar doriad dydd.
- 'Briwel' Gwynt dros dir, dim briwel yn y rhywd. Gwynt o’r dwyrain yn chwythu’r “gwymon” ? allan i’r mor.
- Roedd angen sgiliau arbennig i ‘sgota yn y Belan gan ei fod yn “bottleneck”
- Treasure Island, safle bwi rhif 9 – allan a’r dynfa, Ned yn gweiddi bod pethau wedi mynd o’i le, gan i’r rhywd gau fel hosan ac wedi difetha’r dyniad. Ond roedd ei llond hi o “logars” eogiad mawr. (Bwi gwyrdd sydd i’w weld yma heddiw ychydig allan o geg y Seiont)
- Traeth Gwyn ger y Belan, dyma lle y bu iddynt ddal y 3 eog mwyaf erioed, y tri yn gyfanswm o 100 pwys.
- Coffee Bay Ala Las gan fod y banc yn frown neis, lledi mwd i’w cael yma neu fflowndars
Dywediadau
[golygu | golygu cod]- Dywediad gan y diweddar Ned Lovell un o bysgotwyr y dref "Mae hi wedi mynd yn ddistyll arnai" Pethau wedi mynd yn ddrwg arno, e.e. rhedeg allan o arian.
Enwau ar Arian yng Nghaernarfon.
[golygu | golygu cod]Roedd gan y Cofi, eiriau am ddarnau arian, cyn i'n arian gael eu newid i sustem arian degol.[3]
- Niwc, (ceiniog) o'r gair Saesneg nook neu noyk sef penny.
- Sei. (Pisyn chwech cheiniog) o’r Saesneg Sai y sef pisyn chwech. Chwech hen geiniog yn gyfartal a 2.5 ceiniog heddiw
- Sgrin (papur punt) o’r Saesneg banknote
- Hog (swllt) o’r Saesneg hog am swllt. Pump ceiniog yn arian heddiw
- Mag (dimau) o’r Saesneg mag am ddimau. Dimau oedd hanner hen geiniog
Ffermio ym Mhlwyf Llanbeblig.
[golygu | golygu cod]Y Ffermio ‘Rwyn Gofio
Gan y diweddar John Owen, Bronydd, ym mhlwyf Llanbeblig ger Llanfaglan. Cyhoeddwyd yr erthygl yma yn wreiddiol yng nghylchgrawn yr NFU, Amaethwr Arfon, Medi 1981. Cyhoeddwyd gyda caniatâd yr NFU yng Nghaernarfon.
“Y sôn am Ryfel 1914-18 yw rhai o’r pethau cyntaf i mi gofio. Bu gorfodaeth aredig ar dymhorau anodd i gael y cynhaeaf ŷd. Gwelais longau awyr. "Air Ships" y wlad hon oeddynt ond Zeppelins oedd pawb yn eu galw, a rhai yn meddwl mai dyna oeddynt.
Cofiaf y cafwyd haf gwlyb yn 1920 a bu colledion difrifol gyda’r fluke ar y defaid y gaeaf dilynol. Daeth prisiau i lawr. Gwerthwyd gwartheg am lai ymhen y flwyddyn ar ôl eu cadw.
Oes aur y ceffylau oedd hi. Dyddiau Sadwrn elai gwyr a gwragedd y ffermydd i’r dref yn eu "turn out," rhai yn mynd yn hamddenol ac eraill ar garlam wyllt. Gyda brec neu gerbyd uchel pedair olwyn a seti o’i amgylch elai fy nain i’r dref.
Byddai ffeiriau ar y Maes yng Nghaernarfon, chaun o gwmpas y gwartheg o Flaen y banciau. Troliau moch bach fyddai yn y Cei lle mae’r buses heddiw. Dangosid stalwyni ar y Maes ar ddiwrnod Ffair Calan Mai.
’Roedd hen ewythr yn byw yn un o ffermydd Dinas Dinlle a chroesai draeth y Foryd ar y trai gyda’i droliau neu gar, a’r ceffylau at eu hanner yn y dŵr yn y mannau dwfn. Bydd sôn yma am groesi yn y nos, dim ond anelu am rhyw olau.
Mae’r tir yma yn Y Bronydd yn llawn o ddarnau o lestri a thegannau lliwgar. Dechrau’r gaeaf byddai troliau’r ardal yn cario tail y dref ar y tir solf. Bu amser y byddai yn rhaid talu amdano, llwyth un ceffyl a mwy am lwyth dau.
Rhwymid y ceffyl blaen o’r golwg.
Soniai’r hen bobl am dail Iwerddon gyda’r llongau hwylio yn dod ag ef yn falast a’i wagio ar y trai.
Ddiwedd y ganrif o’r blaen aeth mab o bob fferm i’r môr ac yr oeddynt yn hynafgwyr pan y cofiai i hwynt.
"Engineer" oedd un cymydog, a byddai saer yn dweud ei fod yn gwybod am Hamburg cystal â’r fan hyn. Llwyth o dywod fyddai wrth ddrws y stabl un ffarm fawr a rhes o geffylau y tu mewn a dim ond tywod o danynt. Am gael mynd a buwch at darw neu fenthyg ceffyl i wneud gwedd, a’i ffermwyr bach yno i ddyrnu. ’Roedd eil un ochr y tŷ gwair ddigon mawr i’r holl beiriannau fod dan dô. Ar ddyddiau byr a thywyll, un lantern fyddai wrth ben y dyrnwr. Cuddid sachaid neu ddau o geirch i’r ceffylau dan y gwellt. `Roedd dyn canlyn ceffylau yn yr ardal yn nodedig am ddwyn yd i’w geffylau ac nid oedd yr un clo yn feistr arno.
Dyn capel mawr oedd y meistr, ac un prynhawn Sul nid oedd wedi mynd i’r ysgol Sul. Cadw twrw yn y llofft oedd dau o’r llafnau, a’r gosb oedd mynd i’r tŷ i ddarllen bob yn ail adnod.
Ceffylwr mawr oedd cymydog arall, a byddai stalwyn neu ddau yno bob amser. Cofiaf un du i "Shellstone," ac un arall coch "Boro Beacon? Ym mis Mai elant i’r ffeiriau i’w dangos, ac yna teithio am ryw ddeng wythnos. Un tymor elai y stalwyn gwyn i’r stesion bob bore Llun at y tren 9.30 a.m. ar y platform i "horse box" tu ô1 i’r teithwyr, ac yr oedd yr olygfa yn wledd iddynt.
Ar noson o haf byddai cesyg yno yn cael eu treio a’r cicio a’r gwichian pan na fyddant yn barod. Yn y gaeaf byddai rhes o gesyg mawr yn y stabl a cyw neu ebol blwydd yn y "loose box." Gyda’r nos byddai certmon yn dyfrio a bwydo a llnau ’danynt a rhyw bedwar neu bump o weision a l1anciau’r fro yno yn sgwrsio a chael cynhesrwydd.
Peiriannau nad oeddynt yn gyffredin oedd yno. O gae pell byddai tair trol yn cario gwair. Un . drol yn y cae wedi ei rhengi codi’r gwair i’w lwytho a cheffyl blaen. Yn y tŷ gwair ’roedd fforch yn gweithio gyda injan oil yn rowlio y rhaffau yn codi llwyth ar rhyw dri thro. Ar y ffordd yn ôl a blaen byddai trol arall. Bum am gyda’r nos yn
canlyn trol a phregethwr amlwg yn ei goler gron
ar y naill â mi. ’
Aeth mab y plas i Ddyffryn Clwyd, ger Bodelwyddan, i ffermio. Clywais un yn sôn am ddanfon ceffyl yno. Cychwyn gyda’r nos, troi i mewn i fferm tua Aber. a thrwy’r dydd trannoeth ar y daith. Cyfnewid ŷd hadud fyddai yn orchwyl fawr. Lorri yn cychwyn o bob pen yn fore. Cyfarfod ym Mhenmaenmawr a defnyddio yr holl geffylau i gael y llwyth dros y Penmaen. Elai rhai o’r ardaloedd yma yno i weini a chefais sgwrs ag un a oedd wedi bod yno. Un o Gapel Uchaf, Clynnog, yn methu byw yn ei groen yno, dim ond gweld yr awyr a’r caeau.
Bu chwalfa ar stâd y teulu Bodvel Roberts yng nghanol y ddau ddegau. Prynwyd hwynt gan y tenantiaid ond rhyw un. Symudodd ef a’r teulu i Leyn. Yr hen fachgen ar daith gyda dau geffyl a’r drol trwy’r dydd. Hel y gwartheg i stesion y dref ben bore a’u trycio i Bwllheli, a llanciau’r fro yn cynorthwyo.
Aeth gŵr ifanc o’r cylch i Loegr a phrynodd anifeiliaid o gwmpas. Pawb yn eu hel at ei gilydd at y tren.
Cynhelid y Sioe Sulgwyn yn un o gaeau Lon Coed Alun, a golygfa wych 0edd y ceffylau plethedig a’r swn pedolau newydd ar y ffordd. Deuai rhai o bell â’u ceffylau i’r ardal y noson gynt i fod yn gyfleus.
Bu ras aredig yn ymyl ac ’roedd yn ddiwrnod mawr i ni’r plant. P’nawn cynt deuthai ymgeisydd o Fôn yma i gynefino gyda’r wedd.
Ym mis Awst byddai te parti y capel mewn llannerch o goed. ’Roedd grât naturiol yno yn y graig. Berwai dwy urn fawr o ddur ar dân coed. Byddai digon o fara brith. Y plant yno p’nawn yn rhedeg a neidio, a llond tun o daffi a gellyg melyn bach yn wobr. Deuai y rhai hyn yno gyda’r nos a gorffenai gyda "Kissing Ring." Nytha y creyr glas yn y dŵr.
Ar noson o haf, a hithau’n drai, trefnai gwyr yr ardal fynd i sticio lledod. Cerdded yn rhes yn y dŵr gyda fforch deilo neu erfyn pwrpasol a’u taro yn y tywod o’u blaen. Hel cocos oedd un arall o bleserau’r traeth. Heliai gwragedd o’r dref sachaidiau trwm ohonynt a’u cario ar eu cefnau adref. Diwyd fyddai un yn hel mwyar duon yn eu tymor, ac un arall yn hel berw dŵr.
’Roedd gwr o Niwbwrch yn byw mewn lle bychan ar fin y traeth yn arbennigo mewn tyfu moron a myned a hwy gyda car a merlen i’w gwerthu i’r pentrefydd cyfagos. Tyfai gropiau o wair hâd trwm a’i stoc yn raenus. Dechreuai y cyfarfod gweddi gydag arddeliad. Cysylltwyd y tir â fferm fwy, gwerthwyd y tŷ, a newidiwyd ei enw gan Saeson. Anodd credu heddiw y fath lewyrch fyddai ar y tir.
Gweithiai tri gŵr ar y Cyngor, oll wedi bod yn gweini mewn ffarm, a gweithio caled yno. Y ceffylau wedi rhedeg gan bob un ac wedi ma1u’r drol.
Darfu sŵn yr engan, y mwg wrth ffitio pedolau, y prysurdeb y diwrnod cylchio olwynion troliau. Gwnai saer yr ardal olwynion newydd, neu gamogau iddynt, hefyd adeiladai dai gwair. Gweithiai gŵr o ben draw Lleyn ar fferm fwyaf y cylch a’i waith fyddai gwynebu cloddiau pridd â cherrig drwy’r gaeaf. Yn ei dyddyn byddai ganddo das wair wedi ei thoi a’i rhaffu’n gywrain.
Arwyddion tywydd da oedd saethu y chwareli, ond glaw olygai saethu Trefor. Tywydd sych a gwynt y dwyrain gyda saethu Llanberis. Sŵn tren yn croesi Sir Fôn am dywydd tawel, ac mae i’w glywed o hyd. Diflanodd mastiau Marconi o fynydd Cefn Du.
Ar dywydd poeth yn yr haf, pan fyddai y cig yn cadw, anfonai. y cigydd o’r dref y bachgen caro-allan i nôl oen, clymu ai draed a’i osod yn y fasged gig ar y beic; hefyd nôl llo tew gyda pwt o gortyn a chychwyn ar wib.
Prisiau isel oedd am bopeth. Y blawdiau oedd Rownd Corn, Indian Corn, Thirds a Bran, yn costio o 6 swllt i 8 swllt y cant. Petrol o dan swllt y galwyn. Rhyw 15 swllt oedd pris mochyn bach; £4 am fochyn bacon; £1.10 y cant am y beef; ŵyn tew yn 30 swllt, a gellid prynu defaid am £1. Byddai sôn am fuwch wedi gwneud £20. Ceid rhyw £50 am geffyl ifanc yn gweithio, a 10 swllt am le defaid.
Ni fu cyfnod y tren yn gan mlynedd, a llai na 40 mlynedd fu amser lorri laeth. Yn ystod fy oes mae bron pob fferm wedi cael preswylydd newydd a theuluoedd gwahanol.
Torri ŷd gyda phladur fyddai’r hen ffermwyr, wedi arfer felly; a thorri gwair cyn bod sôn am injian. ’Roedd Reaper gan un cymydog y breichiau i’w troi a hel yr ŷd yn ysgubau oddi ar y bwrdd a rhwymo gyda llaw. Pan fyddai ŷd wedi gorwedd torri hefo injan dorri gwair a’i godi a’i rwymo fyddai’r drefn. Daeth binder i’r ffermydd mwyaf yn ystod y Rhyfel Cyntaf a tractor Titan hefyd.
Côf bychan sydd gennyf am symud dyrnwr a’r injan stêm gyda ceffylau.
Gwydd main a "Trans Plough" oedd yn aredig, ond ’roedd "one way" gan un Ile a gwydd dwy gwys yn cael ei dynnu gan dri ceffyl yn aredig tir coch mewn un arall.
Horse power gyda’r ceffyl yn troi yn gylch a fyddai’r arfer hyd nes y daeth yr injan oil i falu gwellt a gwair; malu ŷd a scrapio rwdins a mangles yn fwyd mân.
Berwi tatws mân ac unrhyw sbarion i’r moch, mewn boiler yn cael ei ffoglu gyda drain neu eithin.
Ym Mryn Morfa trigai dwy hen lady, chwiorydd i Sir Owen Roberts, Plas Dinas, sef hen daid y gŵr a fu yn briod ag un o‘r teulu brenhinol. Y "coachman" oedd brawd fy nain, a byddai yno geffyl a carriage a’r lifrau fyddai côt laes flewog lwyd-felen a het silk o’r un defnydd.
Cerddai pobl y dref y llwybrau a byddai cariadon o gwmpas yn y nythod caru fel y gelwai’r plant y mannau hynny.
Tyfid llawer o rwdins a mangels ar bob fferm yn yr amser a gofiaf. Dechrau haf gwelid rhes o ddynion ar eu pengliniau yn teneuo, a’r haul yn boeth ar eu cefnau. Yn y gaeaf byddai llawer yn canlyn y drol rwdins a byddai tomen o fangels yn y gadlas wedi eu claddu mewn gwymon rhag y rhew. Insurance rhag wanwyn drwg, meddai un ffermwr.
Deuai carw o rywle ambell dro, a syfrdanu rhywun pan godai; a’r pleser o’i weld yn llamu’r cloddiau.
Defaid Cymreig oedd wedi rhedeg gyda maharen South Down oedd y drefn am ŵyn. Amrywiaeth o wartheg oedd yn bod, y Shorthorn wedi dechrau dod ac edrychid i lawr ar lo gwyn. Godrid, cadw’r llaeth i dwchu mewn potiau am rhyw dridiau, yna ei gorddi i wneud ymenyn i’w werthu. a magu lloi ar y llaeth enwyn”.
Nodoiadau:
Mae fferm Bronydd ger canolfan arddio Fron Goch, ym mhlwyf Llanbeblig, ac yn ymestyn drosodd i blwyf Llanfaglan.
Nythod caru yw olion cyplau wedi bod yn caru yn y gwair mewn cae.
Kissing Ring, gem reodd y plant yn chware “byddai bachgen yn cael danfon merch adref” yn ôl John Owen.
Byddai’r diweddar Mrs Mary Hughes Llanfaglan yn dweud yn aml, wrth gymharu eu dyddiau ieuenctid a heddiw: cario bwyd i’r dref yr oeddem ers talwm, nid ei gario oddi yno.
Cofio gwraig wedi ei magu yn Tan y Graig, Llanfaglan yn sôn bod ei thad wedi cael tail o’r Iwerddon, ac ers hynny ni welwyd yr un neidr ar y tir hwnnw.
*Yr erthygl yma wedi ei gyhoeddi yn union fel y cyhoeddwyd yn wreiddiol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Mae'r hanes i’w gael ar wefan Rhiw.com; adalwyd 24 Gorffennaf 2017.
- ↑ Cofnodwyd yr uchod gan Tony Lovell
- ↑ Ffynhonnell: Geiriadur Prifysgol Cymru
- Ifor Williams, cyhoeddwyd yn wreiddiol yng nghylchlythyr Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru