Y Groes-wen
Math | anheddiad dynol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Penyrheol |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.575°N 3.261°W |
Cod OS | ST125865 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Hefin David (Llafur) |
AS/au y DU | Wayne David (Llafur) |
Pentref bychan yng nghymuned Penyrheol, Trecenydd ac Enau'r Glyn, bwrdeisdref sirol Caerffili, Cymru, yw'r Groes-wen[1] (hefyd: Groeswen).[2] Fe'i lleolir tua 2 filltir i'r de-ddwyrain o dref Caerffili, tua 5 milltir i'r gogledd o gyrion Caerdydd yn ne Cymru.
Ganwyd y peiriannydd William Edwards yn fferm Tŷ Canol, y Groes-wen ac ef oedd sylfaenydd ac adeiladydd Capel Groeswen a agorwyd yn Awst 1742.
Treuliodd y bardd William Williams (Caledfryn) ei flynyddoedd olaf fel gweinidiog gyda'r Annibynwyr yn y Groes-wen. Bu farw ar 23 Mawrth 1869 ac fe'i claddwyd ym mynwent y capel.
Mae'r llenor a newyddiadurwr Ieuan Gwynedd hefyd wedi ei gladdu ym mynwent y Groes-wen.
Y Groeswen oedd cartref William Cosslett (Gwilym Elian, 1831-1904) oedd yn swyddog glofa a bardd. Fe'i ganed yn Nantyceisiaid, Machen, sir Fynwy, yn fab i Walter Cosslett (m. 1879). Roedd ei frodyr Coslett Coslett (Carnelian), Thomas Coslett (Y Gwyliedydd Bach) a Cyrus Coslett (Talelian) hefyd yn feirdd.
Priododd Mary Ann Thomas (m. 1896) ym 1855. Erbyn y 1850au roedd yn byw yn y Groeswen, ac yn ddiweddarach yn Hendredenny a Chaerffili, i gyd ym mhlwyf Eglwysilan (Eglwys Elian), Morgannwg. Gyda'i frawd Carnelian roedd yn aelod o'r cylch o feirdd 'Clic y Bont' ym Mhontypridd. Enillodd nifer o gadeiriau eisteddfodol ond ni chafodd lwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu farw 22 Medi 1904 yng Nghaerffili.
Capel y Groeswen
[golygu | golygu cod]Mae gan gapel y Groeswen lle canolog yn hanes dechreuad y diwygiad Methodistaidd yng Nghymru.[3] Ym 1742 cynigiodd Thomas Evans, perchennog fferm y Waun Fach Groes-wen tir i agor "tŷ cwrdd" ar gyfer Methodistiaid yr ardal. Agorwyd y tŷ yn Nhachwedd yr un flwyddyn. Dyma oedd yr adeilad cyntaf i'w codi yn bwrpasol at ddefnydd y Methodistiaid Cymreig. Cymdeithas (society neu seiat) o fewn Eglwys Loegr, oedd y Methodistiaid ar y pryd. Gan fod y Methodistiaid yn rhan o Eglwys Loegr roedd Howel Harris ac arweinwyr eraill y gymdeithas yn mynnu bod seiat tŷ cwrdd y Groes-wen yn cael ei harwain gan gynghorwyr yn hytrach na gweinidog; bod yr aelodau i dderbyn y cymun ac ordinhadau eraill, megis bedydd a chladdedigaeth yn eglwys y plwyf, ac nid yn y tŷ cwrdd. Gan fod cefnogwyr ac arweinwyr Eglwys Loegr yn dangos atgasedd, ac ar y brydiau yn ymosod trwy drais, ar aelodau'r Methodistiaid, penderfynodd aelodau'r Groes-wen mae hurt oedd perchen addoldy eu hunain a pharhau i geisio addoli yn eglwys eu gorthrymwyr. Ym 1746 ymadawodd y seiat a'r Methodistiaid a chofrestrwyd yr adeilad fel capel Annibynnol.[4]
Un o gynghorwyr Methodistaidd cyntaf y tŷ cwrdd a gweinidog Annibynnol cyntaf y capel oedd William Edwards adeiladydd pont enwog Pontypridd.
Mae capel y Groeswen wedi ei restri fel adeilad Gradd 2 tra bod nifer o'r beddfeini wedi ei rhestri fel strwythurau Gradd 2*.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 21 Chwefror 2022
- ↑ Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I-Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf tt 231-234
- ↑ Capel—Taflen wybodaeth capeli ardal Caerffili adalwyd 1 Mawrth 2023
Trefi
Aber-carn · Bargod · Bedwas · Caerffili · Coed-duon · Crymlyn · Rhisga · Rhymni · Ystrad Mynach
Pentrefi
Aberbargoed · Abertridwr · Abertyswg · Argoed · Bedwellte · Brithdir · Cefn Hengoed · Cwm-carn · Draethen · Fochriw · Gelli-gaer · Y Groes-wen · Hengoed · Llanbradach · Machen · Maesycwmer · Nelson · Pengam · Penpedairheol · Pontlotyn · Pontllan-fraith · Pont-y-meistr · Rhydri · Senghennydd · Trecelyn · Tredegar Newydd · Tretomos · Ty'n-y-coedcae · Wyllie · Ynys-ddu