Yr Ynys Las
Kalaallit Nunaat Grønland | |
Math | gwlad ymreolaethol o fewn Brenhiniaeth Denmarc, etholaeth, ynys-genedl, rhestr o diriogaethau dibynnol |
---|---|
Prifddinas | Nuuk |
Poblogaeth | 56,609 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Nuna asiilasooq |
Pennaeth llywodraeth | Múte Bourup Egede |
Cylchfa amser | UTC±00:00, UTC−01:00, UTC−02:00, UTC−03:00, UTC−04:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Kalaallisut |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Brenhiniaeth Denmarc, Gogledd America |
Gwlad | Brenhiniaeth Denmarc |
Arwynebedd | 2,166,086 km² |
Yn ffinio gyda | Canada, Nunavut, Gwlad yr Iâ, Norwy |
Cyfesurynnau | 72°N 40°W |
DK-GL | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Senedd yr Ynys Las |
Pennaeth y wladwriaeth | Frederik X, brenin Denmarc |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog yr Ynys Las |
Pennaeth y Llywodraeth | Múte Bourup Egede |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $3,236 million |
Arian | Krone Danaidd |
Cyfartaledd plant | 2.037 |
Yr ynys fwyaf yn y byd yw'r Ynys Las neu'r Lasynys (Kalaallisut: Kalaallit Nunaat; Daneg: Grønland). Fe'i lleolir yng Ngogledd Môr yr Iwerydd rhwng Canada a Gwlad yr Iâ. Mae brenhines Denmarc, Margrethe II, hefyd yn frenhines ar yr Ynys Las. Prifddinas yr ynys yw Nuuk.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae iâ yn gorchuddio 84% o'r tir. Gorchuddir y rhan fwyaf o'r wlad gan gap rhew anferth â nunatakau yn torri trwodd o gwmpas ei ymylon. O'r cap rhew hwn mae nifer o rewlifoedd, neu afonydd iâ, yn llifo, gan gynnwys Rhewlif Humboldt, ac yn torri i fyny'n fynyddoedd iâ wrth gyrraedd y môr. Nodwedd arall ar dirwedd yr Ynys Las yw'r nifer sylweddol o pingos (bryniau crwn gyda rhew yn eu canol) a geir yno.
Er gwaethaf yr holl rew, mae'r enw yn y Ddaneg (ac mewn ieithoedd Almaenaidd eraill) yn golygu "Tir (neu wlad) glas" (gweler isod).
Mae'r Ynys Las (2 miliwn km²) yn ymddangos ar fapiau o dafluniad Mercator cymaint ag yr Affrig (30 miliwn km²),
Hanes
[golygu | golygu cod]- Prif: Hanes yr Ynys Las
Cyrhaeddodd pobl yr Ynys Las am y tro cyntaf tua 2500 CC. Tua'r flwyddyn 986, darganfu'r morwr o Lychlynwr Eric Goch yr ynys. Fe'i galwodd "yr Ynys Las" er mwyn denu pobl yno o Wlad yr Iâ a Norwy. Cyrhaedodd yr Inuit modern o'r gogledd-orllewin tua 1200. Am gyfnod bu nifer fach o drefedigaethau Llychlynaidd ar yr arfordir, ond diflanasant erbyn y 15g, naill ai o ganlyniad i afiechyd neu ymosodiadau gan y brodorion. Yn 1721 creuwyd tref fechan Ddanaidd newydd ar yr ynys a hawliodd coron Denmarc y tir. Cafodd yr Ynys Las ei gwahanu oddi wrth Denmarc yn ystod yr Ail Ryfel Byd o ganlyniad i feddiannaeth Denmarc gan yr Almaen. Daeth y wlad yn rhan gymathedig o Ddenmarc yn 1953. Yn 1979, y flwyddyn y collwyd y refferendwm ar ddatganoli yng Nghymru, enillodd yr Ynys Las hunanlywodraeth dan sofraniaeth Denmarc, gyda'i senedd ei hun ar gyfer materion mewnol.
Iaith a diwylliant
[golygu | golygu cod]Ers Mehefin 2009 yr iaith yn swyddogol yw Kalaallisut; cyn hynny roedd y Ddaneg hefyd yn iaith swyddogol. Yn ieithyddol, mae'n un deulu'r Inuit. Yn 2007 roedd 56,200 yn ei siarad yn fyd-eang. Credir i'r iaith gyrraedd yr Ynys Las pan gyrhaeddodd y Thuliaid oddeutu 1200.
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Hans Hendrik (c.1834-1889), fforiwr
- Knud Rasmussen (1879-1933), fforiwr
- Otto Rosing (g. 1967), cyfarwyddwr ffilm
- Lars Rosing (g. 1972), actor
- Julie Berthelsen (g. 1979), cantores
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol y llywodraeth
- Ystadegau Archifwyd 2006-09-01 yn y Peiriant Wayback
- Gwefan dwristiaeth swyddogol y Lasynys
- Proffeil (BBC)
- Cronoleg (BBC)