Ynys y Pasg
Gwedd
Math | ynys |
---|---|
Enwyd ar ôl | Pasg |
Poblogaeth | 7,750 |
Cylchfa amser | UTC−06:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Chilean Spanish, Rapa Nui |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Tsile Ynysol |
Sir | Isla de Pascua |
Gwlad | Tsile |
Arwynebedd | 164 km² |
Uwch y môr | 242 metr, 211 metr |
Gerllaw | Y Cefnfor Tawel |
Cyfesurynnau | 27.12°S 109.35°W |
Hyd | 24 cilometr |
Un o ynysoedd Polynesia, yn rhan o Tsile yn weinyddol, yw Ynys y Pasg[1] (Sbaeneg: Isla de Pascua, hefyd Rapa Nui). Mae'n dalaith i Tsile, a'r brifddinas yw Hanga Roa.
Mae'r ynys yn 163.6 cilomedr sgwar, ac roedd y bobologaeth yn 2005 yn 3,791. Rhoddwyd yr enw "Ynys y Pasg" iddi gan y fforiwr Jacob Roggeveen, a gyrhaeddodd yno ar ddydd Sul y Pasg, 1722. Yr enw Polynesaidd yw "Rapa Nui" ("craig fawr").
Mae'r ynys yn enwog am ei cherfluniau anferth, y moai. Mae'r mwyaf ohonynt yn naw medr a hanner o uchder. Ystyrir eu bod yn gerfluniau o hynafiaid y trigolion. Dynodwyd yr ynys yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1995.
Moai ar eu sefyll ar Ynys y Pasg
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gareth Jones (gol.), Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999)