Yr Angor (Aberystwyth)
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | papur bro |
---|---|
Rhanbarth | Ceredigion |
- Am y papur bro o'r un enw a gyhoeddir yng ngogledd-orllewin Lloegr gweler Yr Angor (Glannau Merswy)
Yr Angor yw papur bro ardal Aberystwyth. Mae'n cynnwys yn ei gylchrediad ardaloedd Comins Coch, Llanbadarn Fawr, Penparcau a'r Waunfawr. Cyhoeddwyd rhifyn cyntaf y papur ym mis Hydref 1977.[1] Syniad Llywelyn Phillips oedd y papur, ef hefyd oedd y golygydd cyntaf, ar y cyd gyda Menna Lloyd Williams.