Yr Erlid
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Heini Gruffudd |
Cyhoeddwr | Y Lolfa |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | Ebrill 2013 |
Pwnc | Natsïaeth, Gwrth-Semitiaeth |
ISBN | 9781847714312 (1847714315) |
Tudalennau | 272 |
Genre | Cofiant |
Cyfrol a chofiant yw Yr Erlid gan Heini Gruffudd. Mae'n adrodd hanes ei fam, y llenor Kate Bosse-Griffiths, yn cael ei herlid yn yr Almaen adeg y Natsïaid. Cyhoeddwyd y llyfr yn 2012 ac fe enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2013.[1]. Cyhoeddwyd y llyfr gyda chlawr meddal yn Ebrill 2015.
Gwraig o dras Iddewig oedd Kate Bosse Griffiths a chafodd ei geni yn yr Almaen. Llwyddodd i ffoi o'r Almaen i Brydain yn 1927[2] Mae'r llyfr yn dilyn helyntion y teulu drwy gyfnod twf Natsïaeth a'r Ail Ryfel Byd ac mae'r awdur hefyd yn chwilio'n ddyfal am wreiddiau gwrth-Iddewiaeth yn Ewrop a sut y datblygodd yn yr Almaen.[3]
Adolygiad Dafydd Morgan Lewis ar wefan Gwales
[golygu | golygu cod]Hanes teulu Kate Bosse Griffiths, mam yr awdur, sydd yn y llyfr hwn. Gwraig o dras Iddewig oedd hi a chafodd ei geni yn yr Almaen. Dilynwn helyntion y teulu trwy gyfnod twf Natsïaeth a'r Ail Ryfel Byd. Trigai llawer o'r teulu yn Wittenberg, a fu'n gartref i Martin Luther bum canrif cyn hynny.
Gwna'r awdur lawer mwy nag adrodd hanes ei deulu. Mae hefyd yn chwilio'n ddyfal am wreiddiau gwrth-Iddewiaeth yn Ewrop a sut y datblygodd yn yr Almaen. Gellir rhoi llawer o'r bai ar Martin Luther ei hun (ac o bosibl y ffydd Gristnogol hefyd). W. H. Auden, yn ei gerdd 'September 1st, 1939' sy'n dweud:
Accurate scholarship can/Unearth the whole offence/From Luther until now/That has made a culture mad.
Er mor eithafol oedd gwrth-Iddewiaeth Luther ni wn i ba raddau y gellir beio'r diwygiwr am gamweddau Hitler. Ond mae'n ddiddorol i erchyllterau Kristallnacht, pan ymosodwyd ar eiddo'r Iddewon ym mis Tachwedd 1938, ddigwydd ar ddiwrnod ei ben blwydd.
Fe ddywed Heini Gruffudd yn y rhagymadrodd i rai teuluoedd ddioddef llawer mwy nag aelodau o'i deulu ef, oedd wedi'r cwbl yn Gristnogion ers cenedlaethau. Nid bod hynny wedi eu harbed rhag yr erlid. Gwaethygu fwyfwy wnaeth y sefyllfa wrth i flynyddoedd y tridegau fynd rhagddynt gan gyrraedd penllanw hunllefus yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gyda rhai o aelodau'r teulu, megis mam yr awdur, yn troi yn alltud, eraill yn cyflawni hunanladdiad ac eraill wedyn yn cael eu hunain yn y gwersylloedd carchar.
Bu farw nain yr awdur yn Ravensbrück ar ddiwedd 1944. Roedd hi'n amlwg yn wraig addfwyn a hyfryd ac ni ellir dechrau amgyffred ei dioddefaint. Ravensbrück, gyda llaw, oedd y gwersyll-garchar yr anfonwyd nifer o drigolion benywaidd Lidice yn Tsiecoslofacia iddo yn dilyn saethu Reinhard Heydrich ym Mhrâg. Llosgwyd y pentref hwnnw i'r llawr a lladdwyd y dynion i gyd yn y fan a'r lle.
Bu'r awdur yn ddyfal gasglu tystiolaeth gan amryw o aelodau'r teulu ac mae'r wybodaeth uniongyrchol a gawn yn ychwanegu llawer at werth y llyfr. Mae yma hefyd fapiau, lluniau a chyfeiriadau at ddogfennau lu sy'n cyfrannu at gyfoeth y gwaith ac yn dangos hefyd pa mor eithafol o fiwrocrataidd y gallai'r Natsïaid fod. Fe fyddai mynegai wedi bod yn gaffaeliad mewn gwaith fel hwn, ond o bosibl y byddai hynny yn ychwanegu at y gost.
Mae hanes yr Holocost yn ddiwydiant mawr erbyn hyn, gyda nofelau, llyfrau ffeithiol, atgofion a ffilmiau di-rif yn trafod y pwnc, ond ychydig iawn a gafwyd yn y Gymraeg. Oherwydd hynny mae'r gyfrol hon yn un eithriadol bwysig a rhaid llongyfarch yr awdur am waith trylwyr, sydd, fe dybiaf wedi bod yn llafur cariad iddo, ond yn daith hynod anodd i'w thramwyo ar yr un pryd.
Dywedir ein bod ar hyn o bryd yn byw trwy'r argyfwng economaidd gwaethaf ers y tridegau. Mewn cyfnodau o'r fath mae erlid ac annoddefgarwch ar gynnydd wrth i ni chwilio am leiafrifoedd i'w beio am bopeth sydd o'i le yn ein bywydau. Boed i'r llyfr hwn fod yn rhybudd i ni heddiw rhag dilyn y llwybr a ddewiswyd gan y Natsïaid a'u cynghreiriaid bedwar ugain mlynedd yn ôl.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Heini’n cipio gwobr Llyfr y Flwyddyn; Golwg360; adalwyd 19 Gorffennaf 2013
- ↑ Yr Erlid yw Llyfr y 2013 Gwefan Golwg 360. Dyddiad cyhoeddi: 18-07-2013 Adalwyd ar 23-07-2013
- ↑ Adolygiad o Yr Erlid gan Dafydd Morgan Lewis oddi ar wefan gwales.com