Ysbyty Maelor Wrecsam
Gwedd
Math | ysbyty |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Wrecsam |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.0467°N 3.0104°W |
Rheolir gan | Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr |
Ysbyty cyffredinol ar gwr tref Wrecsam, Sir Wrecsam yw Ysbyty Maelor Wrecsam. Hyd 2009 lleolwyd pencadlys Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Ddwyrain Cymru yno. Erbyn hyn mae'n un o dri ysbyty cyffredinol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac mae'n gwasanaethu ardal gogledd-ddwyrain Cymru, sef Wrecsam a Sir y Fflint yn bennaf. Cyfeiria'r enw at hen gantref ac ardal Maelor.