Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                
Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cael ei brofi, feddyliem, oddi wrth un amgylchiad neillduol y gellid cyfeirio ato. Bu llongddrylliadau mawrion ar derfynau Môn unwaith, a darfu i'r wlad warthruddo ei hun yn fawr trwy redeg dros y terfynau ar y pryd. Annogwyd Mr. Elias mewn cyfarfod misol i areithio yn erbyn y pechod cyn pregethu yn mhob man y gallai fyned—ac felly fu. Yr oedd ei anerchion y pryd hwnw mor daranllyd, fel yr oedd y gwrandawyr yn arswydo ac yn dychryn ar eu traed; a'r canlyniad a fu, i gannoedd o lwythi meni o eiddo gael eu danfon yn ol, a'u tywallt yn garneddi ar lan y môr, gyferbyn â'r lle y dygwyd hwy o hono. Ni thramgwydda neb wrthym am ddyweyd fod John Elias, fel areithiwr, yn uwch o'i ysgwyddau i fyny na neb a welodd Cymru ar ei ol! Nid oes eisieu un teitl iddo ef—na B. A., nac A.M., na D.D. Y mae mwy o swyn yn enwau syml a diaddurn John Elias, a Christmas Evans, nag sydd yn holl deitlau y byd. Nis gall Ynys Môn anghofio yr enwau cyssegredig hyn tra byddo Mynydd y Twr yn cael golchi ei odre gan donau y môr!

'Elias fawr â'i lais fu
Drwy hon yn hir daranu;
Yntau, Christmas, addas oedd
Yn llaw Arglwydd y lluoedd—
Dau i agor diwygiad
Ar lw i gynhyrfu'r wlad,
A dau gerub di—guro,
Goleu fryd, siglai y fro :—
Ond dau haul mawr teulu Mô
A orwedd gyda'r meirwon."