Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                
Neidio i'r cynnwys

cnoi

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Cynaniad

  • /knɔi̯/

Geirdarddiad

Celteg *knā-jo- o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *kneh₂- a welir hefyd yn y Lithwaneg knóti ‘plicio, pilio’ a'r Hen Roeg knēstēr ‘math o gyllell’. Cymharer â'r Gernyweg knias ‘briwio bwyd rhwng y dannedd’ a'r Gwyddeleg Canol cnaid ‘treulio trwy frathu neu ddeintio’.

Berfenw

cnoi berf anghyflawn (bôn y ferf: cno-)

  1. Erydu neu dreulio rhywbeth trwy frathu neu ddeintio yn gyson.
  2. (yn y De) Cau dannedd, genau neu big o amgylch rhyw wrthrych arall.
    Roedd y ci wedi cnoi coes y dyn post.
  3. Briwio neu falu bwyd rhwng y dannedd uchaf a’r rhai isaf.

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Dihareb

Cyfieithiadau