Aizuri-e
Gwedd
Term celf Siapaneaidd yw Aizuri-e (Siapaneg: 藍摺り絵) sy'n golygu yn llythrennol “darlun printiedig glas”. Fel rheol mae'r term yn cyfeirio at brintiadau bloc pren Siapaneaidd wedi'u printio â llaw mewn lliw glas, neu'n bennaf yn y lliw hwnnw. Pan ddefnyddir lliw arall, coch ydyw fel rheol.
Mae'n derm a gysylltir â darluniau yn yr arddull ukiyo-e yn arbennig, ac roedd yn boblogaidd gan artistiaid fel Hokusai a Hiroshige. Ar adegau mae'n gallu creu effaith tebyg i borslen gwyn a glas clasurol.