Aristoteles
Aristoteles | |
---|---|
Ganwyd | 384 CC Stageira |
Bu farw | o clefyd coluddol Chalcis |
Man preswyl | Athen, Athen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | biolegydd, cosmolegydd, rhesymegwr, swolegydd, beirniad llenyddol, mathemategydd, moesegydd, gwybodeg, athronydd gwleidyddol, polymath, athroniaeth iaith, llenor, athronydd, seryddwr, daearyddwr, athro, tiwtor, ontolegydd, ffisegydd, diwinydd, seicolegydd |
Adnabyddus am | Politics, Moeseg Nicomachaidd, Metaphysics, Physics, Organon, Barddoneg, Constitution of the Athenians, Eudaimonia, Meteorology |
Prif ddylanwad | Platon, Socrates, Heraclitos, Parmenides, Zeno o Elea, Democritus, Anaximandros, Epicurus, Hippocrates, Empedocles |
Mudiad | ysgol beripatetig |
Tad | Nicomachus |
Priod | Pythias |
Partner | Herpyllis |
Plant | Nicomachus, Pythias |
Athronydd Groeg yr Henfyd oedd Aristoteles[1] (hefyd Aristotlys[1] neu Aristotlus, Groeg: Ἀριστοτέλης). Fe'i ganwyd yn 384 CC yn Stagira, Chalcidici; ac fe fu farw ar 7 Mawrth 322 CC yn Chalcis, Ewboia yng Ngwlad Groeg.
Roedd yn fyfyriwr i Platon ac yn athro i Alecsander Fawr. Ysgrifennodd ynglŷn ag amryw feysydd, gan gynnwys ffiseg, barddoniaeth, bioleg, rhesymeg, rhethreg, gwleidyddiaeth, llywodraeth, a moeseg. Ynghyd â Socrates a Platon, roedd yn un o athronwyr mwyaf dylanwadol Groeg yr Henfyd. Trawsnewidiasant athroniaeth Gynsocrataidd yn sylfeini'r Athroniaeth Orllewinol gyfarwydd. Dywed rhai y bu i Platon ac Aristoteles ffurfio dwy ysgol bwysicaf athroniaeth hynafol; tra bod eraill yn gweld dysgeidiaeth Aristoteles yn ddatblygiad a diriaethiad o weledigaeth Platon.
Bywyd
[golygu | golygu cod]Ganwyd Aristoteles yn Stagira, Chalcidice, yn 384 CC. Ei dad oedd y meddyg personol i Frenin Amyntas III o Macedon. Hyfforddwyd ac addysgwyd Aristoteles fel aelod o'r pendefigaeth. Pan oedd yn tua deunaw oed, fe aeth i Athen i barhau a'i addysg yn Academi Platon. Arhosodd Aristoteles yn yr academi am tua ugain mlynedd, tan gadawodd yn 347 CC, pan bu farw Platon.
Yna, teithiodd gyda Xenocrates i lys Hermias pen Atarneus yn Asia Minor. Tra yn Asia, teithiodd Aristoteles gyda Theophrastus i Ynys Lesbos, lle astudiodd lysieueg a milofyddiaeth yr ynys. Priododd Aristoteles berthynas i Hermias o'r enw Pythias. Fe anwyd merch iddo. Yn fuan ar ôl marwolaeth Hermias, gwahoddwyd Aristoteles gan Philip II, brenin Macedon, i fod yn diwtor i Alecsander Fawr.
Ar ôl treulio sawl blwyddyn yn dysgu yr Alecsander Fawr ifanc, dychwelodd Aristoteles i Athen. Erbyn 335 CC roedd wedi sefydlu ei ysgol ei hun yno a alwodd yn Lyceum. Tra yn Athen, bu farw ei wraig, Pythias, a daeth Aristoteles yn agos at Herpyllis o Stageira. Ganwyd mab iddo o Herpyllis a alwodd ar ôl ei dad, Nicomachus.
Yr adeg honno, astudiodd Aristoteles bron pob pwnc posibl ar y pryd, a gwnaeth sawl cyfraniad sylweddol i'r rhan fwyaf ohonynt. Yng ngwyddoniaeth ffisegol astudiodd anatomeg, seryddiaeth, economeg, embryoleg, daearyddiaeth, daeareg, meteoroleg, ffiseg a milofyddiaeth.
Yn athroniaeth ysgrifennodd am estheteg, moeseg, llywodraeth, metaffiseg, gwleidyddiaeth, seicoleg, a diwinyddiaeth.
Hefyd astudiodd addysg, llenyddiaeth a barddoniaeth. At ei gilydd mae ei waith yn cynnwys ystod y meddwl Groegaidd yn y cyfnod hwnnw.
Gweithiau
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Geiriadur yr Academi, [Aristotle].