Asteroid
Enghraifft o'r canlynol | math o wrthrych seryddol |
---|---|
Math | planedyn, corff neu wrthrych bychan yng Nghysawd yr Haul |
Rhan o | gravitationally bound system |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Corff bychan yn y gofod yw asteroid sydd i'w cael fel rheol yn y prif wregys asteroidau rhwng y planedau Mawrth ac Iau. Credir bod yr asteroidau hyn yn olion planed a wnaeth fethu ffurfio yn nyddiau cynnar Cysawd yr Haul oherywdd dylanwad disgyrchiant Iau. Fel rheol, diffinnir corff bychan fel comed (seren gynffon) os ydyw'n dangos coma o nwy a rhew; os dim, diffinnir y corff fel asteroid.
Cafodd yr asteroid cyntaf, Ceres, ei darganfod yn 1801 gan Giuseppe Piazzi (erbyn hyn mae Ceres wedi cael ei ail-gatagoreiddio fel planed gorrach), ac ers hynny mae mwy na 200,000 wedi cael eu darganfod. Mae seryddwyr yn ystyried y gwaith o ddarganfod asteroidau i fod yn hynod o bwysig, achos y posibilrwydd y gall asteroid drawo'r Ddaear yn y dyfodol. Er mwyn darganfod mwy amdanynt, mae sawl chwiliedydd gofod NASA wedi ymweld ag asteroidau yn yr ugain mlynedd diwethaf, gan gynnwys Galileo (a wnaeth ymweld â 951 Gaspra a 243 Ida), NEAR (a wnaeth ymweld â 253 Mathilde a 433 Eros), ac eraill.
Rhai asteroidau
[golygu | golygu cod]- 433 Eros - enwir ar ôl y duw Eros
- 2598 Merlin - enwir ar ôl y dewin chwedlonol Myrddin
- 5366 Rhianjones – enwir ar ôl Rhian Howell Jones (g. 1960), arbenigwraig ar sêr gwib
- 5861 Glynjones - enwir ar ôl Kenneth Glyn Jones, seryddwr
- 6758 Jesseowens - enwir ar ôl Jesse Owens, athletwr trac
- 9622 Terryjones - enwir ar ôl Terry Jones, cyn aelod o Monty Python
- 129092 Snowdonia – enwir ar ôl Eryri
- 18349 Dafydd - enwir ar ôl Dafydd ap Llywelyn, Tywysog Cymru