Berdychiv
Mynachlog y Carmeliaid yn Berdychiv. | |
Math | dinas bwysig i'r rhanbarth yn Wcráin, miasteczko |
---|---|
Poblogaeth | 73,046 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | Siedlce, Alytus, Jawor |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Gweriniaeth Pobl Wcráin |
Sir | Zhytomyr Oblast |
Gwlad | Wcráin |
Arwynebedd | 3,533 km² |
Uwch y môr | 250 metr |
Cyfesurynnau | 49.8919°N 28.6°E |
Cod post | 13300 |
Dinas yn Oblast Zhytomyr, Wcráin, yw Berdychiv (Wcreineg: Берди́чів, Rwseg: Берди́чев trawslythreniad: Berdichev, Iddew-Almaeneg: באַרדיטשעװ Barditshev, Pwyleg: Berdyczów). Saif ar lannau Afon Hnylopiat, un o lednentydd Afon Teteriv sydd yn llifo i'r Dnieper, yng ngogledd Ucheldir y Dnieper.
Bu dan reolaeth Uchel Ddugiaeth Lithwania o 1546 i 1569, a Gwlad Pwyl o 1569 i 1793. Saif muriau'r gaer, a godwyd yn niwedd yr 16g, hyd heddiw. Ildiwyd Berdychiv i Ymerodraeth Rwsia yn sgil rhaniad Gwlad Pwyl ym 1793. Yn y 18g, daeth Berdychiv yn ddinas fasnachol bwysig ac yn ganolfan i'r mudiad Hasidig, ac yn ôl cyfrifiad 1789 bu Iddewon yn cyfri am dri o bob bedwar o'r trigolion. Datblygodd diwydiannau yn sylweddol yn y 19g, ac am gyfnod bu Berdychiv yn ddinas bedwaredd fwyaf Wcráin.[1]
Lleolir Berdychiv ar gyffordd reilffordd rhwng Zhytomyr i'r gogledd, Vinnytsia i'r de, Rivne i'r gorllewin, a Fastiv i'r dwyrain. Prif ddiwydiannau'r ddinas ydy peirianneg, puro siwgr, barcio crwyn, cynhyrchu dillad, a thrin bwydydd, a thyfir betys siwgr yn yr ardal. Mae adeiladau nodedig Berdychiv yn cynnwys mynachlog gaerog a godwyd gan Urdd y Carmeliaid yn y 17g, a sydd bellach yn amgueddfa, a'r eglwys Gatholig lle priododd y nofelydd Ffrengig Honoré de Balzac â'r Bwyles Eveline Hanska ym 1850. Ymhlith yr enwogion o Berdychiv mae'r nofelydd Saesneg Joseph Conrad, y llenorion Iddew-Almaeneg Mendele Mocher Sforim ac Abraham Goldfaden, yr awdur Rwseg Vasily Grossman, a'r troseddwr rhyfel John Demjanjuk.
Hanes
[golygu | golygu cod] Uchel Ddugiaeth Lithwania 1430–1569
Y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd 1569–1793
Ymerodraeth Rwsia 1793–1917
Gweriniaeth Pobl Wcráin 1917-1918
Y Wladwriaeth Wcreinaidd 1918
Cyfarwyddiaeth Wcráin 1918-1919
Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Wcráin 1919-1920
Gweriniaeth Gwlad Pwyl 1920
GSS Wcráin 1920–1922
Yr Undeb Sofietaidd 1922–1941
Yr Almaen Natsïaidd 1941–1944 (meddiannaeth filwrol)
Yr Undeb Sofietaidd 1944-1991
Wcráin 1991–presennol
Daeth yr ardal dan reolaeth Uchel Ddugiaeth Lithwania yn ystod hanner cyntaf y 15g, Sefydlwyd caer yma gan lu o Lithwania ym 1482.[1] Cyfeirir at enw Berdychiv yn gyntaf mewn dogfen o 1545, a bu dan reolaeth Lithwania nes ei throsglwyddo i Goron Pwyl yn sgil ffurfio'r Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd ym 1569. Codwyd caer o amgylch Berdychiv ym 1593. Adeiladwyd eglwys a mynachlog yn Berdychiv ym 1630 ar orchymyn J. Tyszkiewics, llywodraethwr Kyiv, ar gyfer mynachod Pwylaidd o Urdd y Carmeliaid. Daeth y ddinas felly yn safle grefyddol bwysig i Goron Pwyl, gan ddenu pererinion i eicon y Forwyn Fair, yn ogystal â chanolfan ddiwylliannol gydag ysgol a gwasg argraffu a sefydlwyd ym 1760.[2]
Daeth Berdychiv yn rhan o diriogaeth Ymerodraeth Rwsia yn sgil Ail Raniad Gwlad Pwyl ym 1793, a ffynnai'r marchnadau ŷd a gwartheg a'r diwydiannau brethynnau ac esgidiau yn ystod hanner cyntaf y 19g. Tyfodd y boblogaeth yn sylweddol, o 2000 ym 1789 i 19,000 ym 1838, ac i 51,500 ym 1860, ac am gyfnod Berdychiv oedd y ddinas fwyaf yn Wcráin ar ôl Odesa, Kyiv, a Lviv. Fodd bynnag, gormeswyd sefydliadau diwylliannol y ddinas gan yr awdurdodau Rwsiaidd ym 1866. Arafai twf economaidd a demograffig yn ail hanner y 19g, wrth i fasnach y marchnadau ddirywio a'r rheilffyrdd gysylltu'r ardal â dinasoedd eraill, ond chwyddodd y boblogaeth eto o 56,000 ym 1897 i 80,000 ym 1914.[2]
Wedi Chwyldro Chwefror 1917 a chwymp Ymerodraeth Rwsia, daeth Berdychiv dan reolaeth Gweriniaeth Pobl Wcráin (1917–18), y Wladwriaeth Wcreinaidd (1918), a'r Gyfarwyddiaeth (1918–19), a chystadleuwyd drosti yn ystod Rhyfel Annibyniaeth Wcráin a Rhyfel Gwlad Pwyl a'r Undeb Sofietaidd cyn i luoedd Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Wcráin gipio'r ddinas yn haf 1920. Erbyn hynny, gostyngodd y nifer o drigolion i 42,000. Cynyddodd y boblogaeth i 55,000 erbyn 1926, gyda 55.4 y cant yn Iddewon, 26.4 yn Wcreiniaid, 8.5 yn Bwyliaid, ac 8.3 yn Rwsiaid; ac i 62,000 ym 1939, ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd.[2] Dirywiodd y boblogaeth Iddewig yn sylweddol yn ystod y rhyfel, pan gafodd y ddinas ei meddiannu gan luoedd yr Almaen Natsïaidd o 7 Gorffennaf 1941 i 5 Ionawr 1944: llofruddiwyd 20,000 i 40,000 o drigolion Berdychiv yn ystod yr Holocost.
Yn ôl cyfrifiad 1959, bu 53,000 o bobl yn byw yn Berdychiv, 55 y cant ohonynt yn Wcreiniaid, 19 y cant yn Rwsiaid, 14.5 y cant yn Bwyliaid, ac 11.5 y cant yn Iddewon. Cynyddodd y boblogaeth am weddill y cyfnod Sofietaidd, i 71,000 ym 1970 ac i 82,000 ym 1981.[2] Gostyngodd y boblogaeth o'i huchafbwynt o 92,000 ym 1989[3] i 88,000 yn 2001,[1] i 84,000 yn 2005,[1] i 78,000 yn 2012,[2] ac i 73,000 yn 2022.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Berdychiv. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Tachwedd 2022.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 (Saesneg) Volodymyr Kubijovyč, "Berdychiv", Internet Encyclopedia of Ukraine. Adalwyd ar 27 Tachwedd 2022.
- ↑ (Saesneg) "Berdychiv", The Columbia Encyclopedia. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 27 Tachwedd 2022.