Zhytomyr
Eglwys Sant Mihangel yn Stryd Kyivska, Zhytomyr. | |
Math | dinas bwysig i'r rhanbarth yn Wcráin, dinas |
---|---|
Poblogaeth | 261,624 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Serhii Sukhomlyn |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | Kutaisi, Gdynia |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Wcreineg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Zhytomyr urban hromada |
Gwlad | Wcráin |
Arwynebedd | 65 km² |
Uwch y môr | 221 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 50.2544°N 28.6578°E |
Cod post | 10000–10499 |
Pennaeth y Llywodraeth | Serhii Sukhomlyn |
Dinas yn Wcráin a chanolfan weinyddol Oblast Zhytomyr yw Zhytomyr (Wcreineg: Жито́мир). Saif ar lannau Afon Teteriv, un o lednentydd Afon Dnieper.
Credir iddi gael ei sefydlu yn y 9g, oes foreuol Rws Kyiv, ar hyd y llwybr masnachol o Lychlyn i Gaergystennin. Ceir y cofnod cyntaf o'r anheddiad ym 1240, pan gafodd ei ysbeilio gan y Tatariaid. Daeth dan reolaeth Uchel Ddugiaeth Lithwania ym 1320 a'r Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd ym 1569. Yn sgil rhaniad Gwlad Pwyl ym 1793, daeth yn ganolfan fasnachol bwysig yn Ymerodraeth Rwsia.
Dinas ddiwydiannol ydyw a leolir mewn ardal amaethyddol, ar hyd y ffordd a'r rheilffordd rhwng Korosten i'r gogledd a Berdychiv i'r de, a'r ffordd rhwng Novohrad-Volynskyi i'r gorllewin a'r brifddinas Kyiv i'w dwyrain. Mae'r diwydiannau yn cynnwys melinau coed, llindai, trin bwydydd, chwareli gwenithfaen, gweithfeydd metel, a chynhyrchu offerynnau cerdd, yn enwedig acordionau.
Gostyngodd y boblogaeth o 292,000 ym 1989[1] i 284,000 yn 2001,[2] ac i 264,000 yn 2021.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) "Zhytomyr", The Columbia Encyclopedia. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 18 Tachwedd 2-22.
- ↑ (Saesneg) Zhytomyr. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Tachwedd 2022.