Briallen
Enghraifft o'r canlynol | tacson |
---|---|
Safle tacson | rhywogaeth |
Rhiant dacson | Primula |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Briallen | |
---|---|
Briallu gwyllt | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Ericales |
Teulu: | Primulaceae |
Genws: | Primula |
Rhywogaeth: | P. vulgaris |
Enw deuenwol | |
Primula vulgaris Huds. |
Planhigyn bach o'r genws Primula yw'r friallen. Mae gan friallu gwyllt flodau melyn a briallu'r ardd flodau porffor, melyn, coch, pinc neu wyn. Maen nhw'n hoffi tymheredd o tua 20 °C. Yr enw Lladin yw Primula vulgaris (L.): [primula = bachigol o prima (= y cyntaf) yn nodi mai hwn yw un o flodau cyntaf y gwanwyn; vulgaris = cyffredin].
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Blodau melyn gwelw yn tyfu'n dusw a dail crychog blewog. I'w gweld rhwng Chwefror ag Ebrill.
Cynefin
[golygu | golygu cod]Mae'r friallen yn tyfu ar elltydd cysgodol o dan goed yn aml, neu yng ngodreon gwrychoedd.
Ecoleg
[golygu | golygu cod]Mae nifer o lindys gwyfynod o'r teulu Noctuidae yn bwyta briallu fel rhan o'u deiet: isadain felen fach Noctua comes; yr isadain felen leiaf Noctua interjecta, clai engreilyd Diarsia mendica, Xestia triangulum; Xestia baja; Xestia xanthographa
Enwau Cymraeg eraill
[golygu | golygu cod][D. Davies a Gwen Aubery]: Briallen gyffredin, Brillig, Llysiau Pawl, Symwl, Symylen, Tewbanog fechan, Blodau mis Mawrth (Caerfyrddin), Brieill [enw barddonol], Dail y Dewbanog [Llysieu-lyfr Teuluaidd, R. Price & E. Griffiths, 3dd Arg., 1890]. Amrywiaethau Enwau: [G. Aubery]: Briellu (Mon, Caerfyrddin, Penfro, Brycheiniog, Morgannwg), Brellu (Arfon a Meirion), Brallu (Arfon), Biarllu (Ceredigion), Bierllu (Caerfyrddin a Morgannwg), Briella/Brialla (Morgannwg), Brigellu (Penfro), Mrialle (Maldwyn), MiariluiMerllu/Merllig (Ceredigion),114ier1lu (Ceredigion, Caerfyrddin).
-
Briallen yn tyfu yn Aberystwyth
-
Briallu'r ardd
-
Briallu gwyllt
Tarddiad yr enwau
[golygu | golygu cod]Mae'n bosibl i'r gair 'briallen' darddu o 'Brial'. Esboniad mwy modern, ond camarweiniol, yw mai Ebrill-lu oedd y gwreiddiol. Noder bod Symwl, Symylen a Tewbanog fechan hefyd yn enwau ar Friallu Mair (P. veris). Mae'n werth nodi nad yw'r elfen graidd a roes 'briallen' i ni wedi ei phriodoli yn gyson i Primula vulgaris: cawn brial y gors Parnassia palustris, briallu'r hwyr Oenothera biennis ac yn y Llydaweg brulu (bysedd y cŵn).
Enwau lleoedd
[golygu | golygu cod]Y gair 'briallen' sydd wrth wraidd yr enwau: Brilley (Swydd Amwythig), Cae Briallu dir y Gyfyng, Llanfihangel y Pennant, Arfo Bryn Briallu. .0 “Cti (]'-‘ [cf. Fferm a Thyddyn 25, Steffan ab Owain]
Enw personol
[golygu | golygu cod]Mae Briall a Briallu yn enwau ar ferched.
Llên Gwerin
[golygu | golygu cod]- Coel mewn gwahanol rannau o Loegr, ac a gofnodwyd o'r Iwerddon hefyd, yw ei bod yn anlwcus dod â Briallu i'r tŷ pan fo ieir (neu hwyaid neu wyddau) yn gori. Gallasai hynny effeithio ar nifer yr wyau a ddeorai, hynny yw, os deued ag un neu ddwy o Friallu i'r tŷ yna dim ond yr un nifer o gywion a ddeorai[1].
- Cofnododd George Ewart Evans[2] y traddodiad hwn yn East Anglia, gan bwysleisio y credai pobl na ddylsid dod â llai na 13 o wyau i'r tŷ gyda'i gilydd. Y rheswm am hynny yw mai 13 yw'r nifer arferol o wyau osodid o dan iâr i ddeor. Roedd pob Briallen felen felly yn cyfateb i'r cyw bach melyn a ddisgwylid o bob wy. Ni feiddid dod â llai i'r tŷ na'r nythaid wyau!
- Briallu a blodau'r afallen/coed ffrwythau ymysg y blodau aberthid gan y Derwyddon[3]
- Crëwyd Blodeuwedd, Gwraig Lleu Llaw Gyffes o 9 blodyn, a chyfeirir at y Dderwen, Banad ac Erwain, a chredir mai'r 6 arall oedd Clychau'r ŷd, Ffa'r gors, Danadl, Y Draenen, y Gastanwydden a'r Friallen[4]
- Cyfeiria T. Gwynn Jones[5] at y defnydd o Lysiau Pawl fel un o rifer fawr o wahanol flodau, llysiau, llwyni [did] o gwmpas tai a bythynnod i amddiffyn rhag drwg.
- Ar un adeg defnyddid Briallu i wneud posel caru[6]
Llenyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Bu'r adroddiad allan o: "Cerddi Crwys" (1920) - Y Border Bach, yn boblogaidd iawn mewn gwahanol Eisteddfodau lleol dros y blynyddoedd. Cynhwysa'r penillion:
Gydag ymyl troetffordd gul
A rannai'r ardd yn ddwy,
Roedd gan fy mam ei "border" bach
O flodau perta'r plwy.
Gwreiddyn bach gan hwn a hon
Yn awr ac yn y man,
Fel yna'n ddigon syml y daeth
Yr Eden fach i'w rhan.
....Dwy neu dair briallen ffôl,
A daffodil, bid siwr,
A'r cyfan yn y "border" bach
Yng ngofal rhyw "hen wr."
"Fardd y blodau, wele fi"
Medd Briallen yn y cysgod;
Hoff gan bawl) ei hwyneb hi,
Blentyn llonnaf haul a chawod.
Eifion Wyn.
- Disgrifir y Friallen mewn iaith "flodeuog" iawn gan Richard Morgan yn ei ail lyfr[7]
"Holo, Frieili yswil, ai chwi sy yna'n preswylio? Chwychwi oedd arnaf eisie weled yn bennaf. Am danoch chwi y meddyliwn pan yn troi i mewn i'r wig. Ceisiwn chwi dan bob llwyn a basiwn, a holwn, "P'le mae'r Brieill, a hi'n ganol Ebrill?" A thyma lle ceir chwi, flodau gweddeiddlwys, mewn cilfach neilltuedig, wedi gosod eich pabell wrth sawdl uchelgraig, a than ortho'r dryslwyn, yn yr encilion! Croeso flodau anadi-ber, wyneb-diws. Proffwydi ydych yn cyhoeddi o'r diffaethwch fod gwyntoedd y gogledd a'r dwyrain ar fedr ymgilio, a blinderau'r gaeaf gyda hwy; a fod mwynderau'r haf yn gwneud eu ffordd yn of ar edyn y deheuwynt."
Arferion plant
[golygu | golygu cod]- Yn Ysgol Gynradd Clynnog yn y 1950au roedd yn ddefod flynyddol bron, yn fuan wedi i'r plentyn cyntaf dweud ei fod "..wedi gweld Briallu yn tyfu" yn y fan a'r fan i'r plant a'r athrawes fynd am dro i gynnal gwers natur yn yr awyr agored. Esgus i fynd a'r dosbarth allan am awyr iach fyddai hyn ac, yn naturiol, thema'r wers fyddai arwyddion y gwanwyn. Edrychid am flodau a blagur; gwrandewid ar adar yn canu a byddai pawb wrth eu boddau petai oen bach cynnar i'w weld. Cesglid sypiau o Friallu a blodau eraill y gwanwyn (Fioledau, Eirlysiau a.y.b.) i'w gosod mewn potiau bychain ar fwrdd natur yr ysgol ac ar ddesg yr athrawes. Go brin y digwydda hynny heddiw i'r un graddau oherwydd prinhaodd blodau gwylltion y gwrychoedd yn gyffredinol erbyn hyn a derbyniwyd cyngor gan naturiaethwyr o'r 1970au ymlaen i beidio a'u pigo.[8]
- Briallu yn ffefrynnau gan ferched bach i'w pigo oherwydd maent yn tyfu'n sypiau cyfleus, yn ffurfio sypun crwn hardd yn y llaw ac mae eu lliw a'u persawr mor hyfryd.
Meddyginiaethau
[golygu | golygu cod]- Prin yw'r dystiolaeth lafar am ddefnyddio briallu at ddibenion meddyginiaethol, ond cofiai gwraig o Gellifor, Rhuthun, fel y byddai ei mam yn arfer mudferwi briallu mewn menyn gwyrdd i wneud eli at fân friwiau...[9].
- Hyd nes darganfod cyffuriau modern roedd tân iddwf, neu "tân iddew" fel y'i gelwir yn y Gogledd, yn afiechyd peryglus a chymharol gyffredin. Byddai i'w gael ar yr wyneb yn aml iawn. Defnyddid rhai meddyginiaethau llysieuol traddodiadol i drin yr anhwylder, er enghraifft, y ddeilen gron, briallu, llysiau pen tai, yr ysgawen, helogan a "llygaid eirin" (llugaeron).... Gwnâi Mrs Jones, Rhos Ddu, Ynys, yn Eifionydd eli gyda blodau briallu i glirio'r ysmotiau llidus a geid ar y gwddf a mannau eraill ar ôl tân iddew[10].
- Mae y llysieuyn hwn yn gyfaill mawr i'r gewynau; felly, os bydd gwendid a chryndod mewn aelod, gwna ddaioni annrhaethol. Byddai yn dda i ddynion sy'n diodde o'r parlys ei ddefnyddio yn fynych. Hefyd mae yn dda rhag pigiadau yn yr ochrau, os cymerwch ddyrnaid o'r llysieuyn hwn, a'r un faint o chwerwlys (wormwood), a'u rhoi ar y tân, rhwng dwy lechen gareg, nes y poethant yn dda, a'u rhoi [ar] yr ochr y byddo poen ynddi, a gorwedd arnynt yn y gwely; os gwynt fydd yno, byddant yn sicr o'i chwalu, ond os fflameg (inflammation) fydd yno, ychwanega at y poen; ac felly bydd raid i chwi ymofyn am feddyginiaeth arall." [11].
- "Y gwraidd wedi eu [sic] sychu a'u gwneud yn llwch sy'n rhagorol i beri tisian dibaid heb niwaid; hwy a dynant lawer o ddwrf a llysnafedd o'r pen. Y mae yn dda fel hyn i wendidau y manwynau, ond dylid ei arfer gyda gofal. Dram a haner o'r gwraidd wedi eu tynu yn y cynhaeaf a bar gyfog cryf."[12]
- Cyfeirir at ddefnyddiau meddyginiaethol "Briallu - flowers of the primrose family, h.y. heb wahaniaethu oddi wrth Friallu Mair, ac ynghymysg a llysiau eraill, yn A Welsh Leech Book[13] tudalen 175 ("eli gwaew"), 185 ("chwydd or killa"), 261 ("rhag medrondod, a thrymder, a gwewyr o'r pen, a cholli lleuer y llygaid a disynhwyro yn y menydd"), 596 ("i beri i ddyn ddywedyd"). Dyddia'r llawysgrifau gwreiddiol o.... [gwirio].
- Yn nyddiau cynnar meddygaeth ystyrid y Friallen yn ddefnyddiol i iachau poen cyhyrau, y parlys a'r gowt. Roedd Pliny yn ei chanmol am hynny. Dywed Gerard: Primrose tea, drunk in the month of Mai is famous for curing the phrensie, ac yn ôl Culpepper: "Of the leaves of Primrose is made as fine a salve to heal wound as any I know". Mewn meddygaeth lysieuol fodern (sic.) mae trwyth o'r gwraidd yn dda i wella cur pen[14]
Addurn
[golygu | golygu cod]- Mae'r briallu un o'r blodau a ddefnyddir, ynghyd â Chennin Pedr, a.y.b. i addurno Eglwysi a Chapeli adeg y Pasg.
Symbolaeth
[golygu | golygu cod]Y Friallen, oherwydd mai blodeuo yn y gwanwyn wna, yn arwydd o ieuenctid. Yng Ngogledd Cymru plenid gwahanol flodau ar feddau i arwyddo oed y claddedig - blodau'r gwanwyn: Briallu/Eirlysiau/Fioledau ar fedd plentyn; Rhosyn/Roced/Gwyddfid i oedolyn a'r Tansi/Ryw/Serenllys i'r hen[15]
Blodyn gardd
[golygu | golygu cod]- Y Friallen yn un o flodau'r "border bach" mewn hen erddi bythynnod Cymreig.
- Erbyn hyn ceir nifer o fathau o Friallu garddwriaethol - lliwiau pinc a phorffor fel arfer (Polyanthus)
Teithi tramor
[golygu | golygu cod]- Yn Iwerddon ar ddydd Calan Mai clymid pelenni o Friallu ar gynffonnau'r gwartheg i gadw gwrachod draw[16]
- Ar Ynys Manaw ar noson Calan Mai, fel mewn gwledydd eraill yn Ewrop, defnyddid blodau melyn i warchod y tai a'r gwartheg. Ar ddydd Calan Mai gwelir Briallu a Gold y gors mewn potiau bychain yn ffenestri swyddfeydd ac ar gownteri siopau yn y trefi ym Manaw[17].
Nodweddion ecolegol diddorol
[golygu | golygu cod]Nodweddir teulu'r briallu gan ddwy ffurf i'r blodyn, sef bod canol rhai blodau yn diwb gwag, tra bo'r tiwbiau yng nghanol y blodau eraill wedi eu llenwi a phen y stigma benywaidd - sydd yn edrych fel pen pin. Dim ond un math o flodyn geir ar un planhigyn, a'r math arall ar blanhigyn gwahanol. Darwin oedd y cyntaf i egluro pam fo gwahaniaeth o'r fath. Esboniodd mai dim ond pryfed a thafodau hir fedr gyrraedd y neithdar yng y tiwbiau, a bod ffurf y blodau yn adlewyrchu'r ffaith bod rhannau gwrywaidd a benywaidd y blodau yn gallu bod mewn llefydd gwahanol o fewn y tiwbiau rhwng un planhigyn a'r llall. Bydd hyn yn sicrhau mai, fel arfer, dim ond paill o blanhigyn gwahanol fedr beillio unrhyw flodyn. Cyflwynir hyn fel un o'r enghreifftiau safonol o groes-beillio i fyfyrwyr mewn gwersi llysieuegol.
- Mae dadl ynglŷn ag effeithiau'r arfer o bigo blodau gwylltion ar rywogaethau "poblogaidd" fel y Briallu. Roeddent yn prinhau yn y 1960au/70au a thybiai rhai mai gor-gasglu oedd yn gyfrifol. Mae'n debyg nad dyna'r prif reswm ond yn hytrach dadwreiddio'r planhigion i'w trosgiwyddo i erddi (sy'n anghyfreithlon bellach), a cholli cynefin.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- ↑ Roy Vickery, A Dictionary of Plant-Lore, (1995)
- ↑ The Pattern Under The Plough, (1971)
- ↑ Marie Trevellyan, Folklore and Folk Stories of Wales, (1909), tud. 96
- ↑ Chwedlau'r Cymry am Flodau, Alison Bielski, (1973), tud.7
- ↑ Welsh Folklore and Folk Customs, (1929), tud.175
- ↑ Arferion Cam, (19..), Catrin Stephens, tud. 89
- ↑ Llyfr Blodau (1910), tud. 14
- ↑ atgofion Twm Elias
- ↑ Meddyginiaethau Gwerin Cymru, Anne Elizabeth Williams (2017) (Gwasg y Lolfa), tud. 293
- ↑ Meddyginiaethau Gwerin Cymru, Anne Elizabeth Williams (2017) (Gwasg y Lolfa), tud. 254
- ↑ Llysieu-lyfr Teuluaidd, R.Price & E. Griffiths, 3dd Arg.,1890
- ↑ Llysieuaeth Feddygol; Thomas Parry, Glan y Gors; tud. 15; Cyh. H.Humphreys, Caernarfon (18..)
- ↑ Gol.: T. Lewis, (1914), rhifau
- ↑ A Modern Herbal, Mrs M. Grieve, (1931, Arg. 1977 dan olygyddiaeth Mrs C. F. Leyel, tud. 657
- ↑ A Pocket Guide to the Customs and Traditions of Wales, (1991), Trefor. M. Owen, tud.82
- ↑ The Folklore of Plants, Margaret Baker, (1969)
- ↑ A Dictionary of Plant-Lore, R. Vickery, (1995), tud. 294