Dyffryn Silicon
Math | canolbwynt technoleg, isranbarth |
---|---|
Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Cefnfor Tawel |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Cyfesurynnau | 37.3775°N 122.0675°W |
Llysenw ar ardal yng Ngogledd Califfornia, Unol Daleithiau America, sy'n ganolfan ar gyfer technoleg ddatblygedig ac arloesol yw Dyffryn Silicon. Fe'i lleolir yn rhan ddeheuol Ardal Bae San Francisco, ac yn cyfateb yn fras i siroedd San Mateo County a Santa Clara County. San Jose yw dinas fwyaf Dyffryn Silicon. Mae dinasoedd mawr eraill yn yr ardal yn cynnwys Sunnyvale, Santa Clara, Redwood City, Mountain View, Palo Alto, Menlo Park a Cupertino.
Mae Dyffryn Silicon yn gartref i lawer o gorfforaethau uwch-dechnoleg mwyaf y byd. Mae traean o'r holl gyfalaf menter yn yr Unol Daleithiau yn cael ei fuddsoddi yma, ac mae'n ganolbwynt blaenllaw ar gyfer arloesi uwch-dechnoleg. Yma y datblygwyd llawer o dechnolegau modern pwysig, gan gynnwys y gylched gyfannol, y microbrosesydd, a'r microgyfrifiadur. Yn 2021 roedd yr ardal yn cyflogi tua hanner miliwn o weithwyr ym maes technoleg gwybodaeth.
Mae gan Ardal Fetropolitan San Jose CMC y pen trydydd uchaf yn y byd (ar ôl Zürich, y Swistir, ac Oslo, Norwy).[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "San Jose area has world's third-highest GDP per capita, Brookings says", Silicon Valley Business Journal, 23 Ionawr 2015; adalwyd 4 Rhagfyr 2022