Gofal iechyd yng Nghymru
Map o'r saith bwrdd iechyd lleol; Betsi Cadwaladr (gogledd), Hywel Dda (gorllewin), Powys (canolbarth), Bae Abertawe (de-orllewin), Cwm Taf (de-canol), Aneurin Bevan (de-ddwyrain), Caerdydd a'r Fro (mwyaf deheuol). | |
Enghraifft o'r canlynol | gofal iechyd yn ôl gwlad neu ranbarth |
---|---|
Rhan o | iechyd yng Nghymru |
Lleoliad | Cymru |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Darperir gofal iechyd yng Nghymru yn bennaf gan wasanaeth iechyd gyhoeddus Cymru (GIG Cymru). Mae GIG Cymru'n darparu gofal iechyd i bob preswylydd parhaol; gwasanaeth sydd am ddim pan fo'i angen, ac y telir amdano o drethiant cyffredinol. Mae iechyd yn fater sydd wedi'i ddatganoli, ac mae gwahaniaethau sylweddol yn datblygu rhwng systemau gofal iechyd cyhoeddus gwahanol wledydd y Deyrnas Unedig, gyda'i gilydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG).[1] Er bod y system gyhoeddus yn dominyddu darpariaeth gofal iechyd, mae gofal iechyd preifat ac amrywiaeth eang o driniaethau amgen a chyflenwol ar gael i'r rhai sy'n barod i dalu.[2][3]
Ysbyty Athrofaol Cymru, y Mynydd Bychan, Caerdydd yw ysbyty mwyaf Cymru, ond roedd Ysbyty Calon y Ddraig yn ysbyty dros dro mwy, a sefydlwyd mewn ymateb i'r pandemig COVID-19 yng Nghymru.[4]
Yn wahanol i Loegr, mae presgripsiynau'r GIG am ddim i bawb sydd wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu yng Nghymru.[5]
Cymru yw man geni'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol modern, gyda'r syniad yn cael ei gyflwyno ledled y DU gan y Gweinidog Iechyd ar y pryd, Aneurin Bevan, ym 1948.[6] Cafodd y gwasanaeth ei weinyddu gan Lywodraeth y DU i ddechrau; ers 1999 mae GIG Cymru wedi cael ei ariannu a'i reoli gan Lywodraeth Cymru.[7]
Ymddiriedolaethau'r GIG a'r byrddau iechyd
[golygu | golygu cod]Cyn 2009, rhannwyd Cymru yn 10 ymddiriedolaeth GIG:[8]
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
- Ymddiriedolaeth GIG Cwm Taf
- Ymddiriedolaeth GIG Siroedd Conwy a Dinbych
- Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent
- Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda
- Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Ddwyrain Cymru
- Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
Byrddau iechyd presennol
[golygu | golygu cod]Mae Cymru bellach wedi'i rhannu'n 7 bwrdd iechyd lleol a 3 ymddiriedolaeth GIG:[9]
- Byrddau Iechyd Lleol :
- Ymddiriedolaethau GIG Cymru Gyfan :
- Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
- Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru sy'n rheoli'r holl wasanaethau ambiwlans yng Nghymru o'i chanolfan yn Sir Ddinbych.
Gofal Sylfaenol
[golygu | golygu cod]Cyrhaeddodd wasanaethau y tu allan i oriau yng ngogledd a gorllewin Cymru ‘bwynt argyfwng' ym mis Ebrill 2019. Bu'n rhaid i wasanaethau yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Sir Benfro ac Ysbyty Tywysog Philip yn Sir Gaerfyrddin gau am benwythnos 30/31 Mawrth.[10] Yn ystod 2018 roedd o leiaf 146 o shifftiau gofal brys yng Nghymru heb feddyg teulu ar y gwasanaeth y tu allan i oriau.[11]
Fferyllfeydd
[golygu | golygu cod]Mae cynlluniau i ehangu rôl fferyllwyr cymunedol yng Nghymru. Cafodd y cynlluniau eu comisiynu gan Lywodraeth Cymru ac fe'u lluniwyd gan Bwyllgor Fferyllol Cymru sy'n rhagweld y bydd fferyllwyr annibynnol â'r hawl i roi presgripsiwn ym mhob fferyllfa gymunedol wedi'u hintegreiddio â meddygfeydd lleol i gael mynediad at gofnodion cleifion. Bydd hyn yn galluogi'r gwasanaeth anhwylderau cyffredin, sy'n galluogi fferyllwyr i drin 26 o afiechydon cyffredin, megis llygaid sych, diffyg traul a doluriau annwyd, a bydd y fferyllwyr yn gallu cyfeirio cleifion am brofion.[12] Darparodd 702 o fferyllfeydd yng Nghymru gyfanswm o 43,158 o ymgynghoriadau gwasanaeth anhwylderau cyffredin yn 2018/2019, mwy na dwbl y nifer yn y flwyddyn flaenorol. Ym Mai 2019 roedd 97% o fferyllfeydd y wlad yn cynnig y gwasanaeth.[13]
Dechreuodd y gwasanaeth ‘profi a thrin' peilot ar gyfer dolur gwddf mewn 70 o fferyllfeydd cymunedol yn ardaloedd byrddau iechyd lleol Cwm Taf a Betsi Cadwaladr yn Nhachwedd 2018. Mae fferyllwyr yn gwneud prawf swab i ddarganfod achos dolur gwddf facteriol neu firaol. Dim ond mewn 20% o achosion yr oedd angen presgripsiwn o wrthfiotigau.[14]
Gwasanaethau Cymunedol
[golygu | golygu cod]Yn Ebrill 2019, cyhoeddodd Vaughan Gething gronfa o £11 miliwn i 'drawsnewid' gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngogledd Cymru. Bydd ymarferwyr iechyd meddwl yn gweithio gyda chriwiau ambiwlans; mewn ystafelloedd rheoli'r heddlu; caffis argyfwng. Bydd hafanau diogel a gwasanaethau triniaeth cartref cryfach yn cael eu datblygu hefyd. Bydd gwasanaethau ymyrraeth gynnar i blant a phobl hŷn yn cael eu cryfhau.[15]
Ystadegau gofal ac iechyd
[golygu | golygu cod]
Coronafeirws
[golygu | golygu cod]Cafodd system gofal iechyd Cymru ei heffeithio'n wael gan achosion Coronafeirws ar ddechrau 2020. Gwaethygwyd hyn gan y ffaith bod poblogaeth Cymru, yn ôl ymchwil Ymddiriedolaeth Nuffield, ar gyfartaledd yn “hŷn, yn salach ac yn fwy difreintiedig na phoblogaeth Lloegr – felly mae'n rhaid i'r GIG weithio'n galetach”.[16]
Gwnaeth Llywodraeth Cymru newidiadau penodol i ofal iechyd yng Nghymru i ddelio â'r achosion, gan gynnwys canslo llawdriniaethau dewisol[17], adeiladu ail ysbyty mwyaf y DU yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd, cymeradwyo'r “peiriant anadlu brys COVID”, dyfais a ddyluniwyd gan ymgynghorydd meddygol yn Rhydaman.[18] Serch hynny, ar ddiwedd Mawrth cafwyd yr achosion lleol mwyaf yn y DU yng Nghymru. Bu Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yng Nghasnewydd yn ganolbwynt i'r achosion hyn, a bu nifer uwch o achosion fesul 1,000 o bobl nag unrhyw ddinas arall yn y DU, gan gynnwys Llundain.[19]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Gofal Iechyd yn y Deyrnas Unedig
- Rhestr o ysbytai yng Nghymru
- Gofal cymdeithasol yng Nghymru
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ NHS now four different systems BBC 2 January 2008
- ↑ Peregrine, Chris (2019-01-29). "Here is why people choose private health care for life-changing operations". walesonline. Cyrchwyd 2019-10-31.
- ↑ "Health centres in Wales | Find a health centre | Bupa UK". www.bupa.co.uk. Cyrchwyd 2019-10-31.
- ↑ CVUHB, Cardiff & Vale University Health Board- (2017-01-20). "NHS Wales | Staff at Wales' biggest hospital reveal how flu is impacting wards". www.wales.nhs.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-31. Cyrchwyd 2019-10-31.
- ↑ "Free prescriptions". GOV.WALES (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-10-31.
- ↑ "Aneurin Bevan and the Birth of the NHS". Past Medical History (yn Saesneg). 2016-01-31. Cyrchwyd 2019-10-31.
- ↑ "One NHS, or Many? The National Health Service under Devolution | The Political Studies Association (PSA)". One NHS, or Many? The National Health Service under Devolution | The Political Studies Association (PSA) (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-31. Cyrchwyd 2019-10-31.
- ↑ SmartHealthcare.com (2009-10-02). "Wales merges health trusts into boards". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2019-10-31.
- ↑ Health in Wales: Structure NHS Wales. Retrieved 10 October 2019
- ↑ "Wales out-of-hours services at 'crisis point' as providers unable to cover weekends". Pulse. 10 April 2019. Cyrchwyd 20 May 2019.
- ↑ "GP crisis left a million patients without doctor on call over weekends and evenings in 2018". Independent. 3 Mai 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Mai 2022. Cyrchwyd 9 June 2019.
- ↑ "All community pharmacies in Wales to have an independent prescriber as part of long-term plan for Welsh pharmacy". Pharmaceutical Journal. 23 Mai 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-08. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2019.
- ↑ "Number of common ailments consultations per pharmacy nearly doubles in 2018/2019". Pharmaceutical Journal. 29 Hydref 2019. Cyrchwyd 11 December 2019.[dolen farw]
- ↑ "Pharmacy sore throat test-and-treat service prescribes antibiotics in only a fifth of cases". Pharmaceutical Journal. 30 September 2019. Cyrchwyd 20 November 2019.[dolen farw]
- ↑ "£11 million in funding announced to bring social care 'closer to home'". Homecare Insight. 25 Ebrill 2019. Cyrchwyd 9 June 2019.
- ↑ "Fact or Fiction? The Welsh NHS performs poorly compared to the English NHS". 16 Ionawr 2017.
- ↑ "Coronavirus: Planned surgery cancelled in Wales". BBC News. 14 Mawrth 2020.
- ↑ "Welsh doctor designs ventilator that could save thousands with coronavirus". 24 March 2020.
- ↑ "The locations of all Covid-19 cases in Wales as one area has most in UK". 6 Ebrill 2020.