Ynni Cymru
Enghraifft o'r canlynol | cynhyrchu trydan |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Gwladwriaeth | Cymru |
Mae Ynni Cymru'n cyfeirio at gynhyrchu trydan yng Nghymru.
Cynhyrchu trydan
[golygu | golygu cod]Yn 2018, roedd cynhyrchiad blynyddol trydan Cymru yn 30.2 TWh ac yn defnyddio 14.9 TWh, sy’n golygu bod Cymru’n cynhyrchu dwywaith cymaint o drydan ag y mae’n ei ddefnyddio ac yn allforiwr net o drydan i Loegr, Iwerddon ac Ewrop.[1][2] Yn yr un flwyddyn, daeth 25% o'r trydan o ffynonellau adnewyddadwy, i fyny o 22% yn 2017. Mae cynhyrchu trydan yn cwmpasu cymysgedd eang o dechnolegau gan gynnwys Glo (ee Aberddawan), Nwy (ee Bae Baglan), Gwynt (Cefn Croes), trydan dŵr (Dinorwig), solar thermol/PV a thrydan biomas.
Tanwydd ffosil
[golygu | golygu cod]Nid yw tanwydd ffosil yn ynni adnewyddadwy; yn hanesyddol, ond dros y canrifoedd, tanwydd ffosil sydd wedi llywio economi Cymru. Roedd diwydiant glo Cymru y mwyaf yn y byd erbyn diwedd y 18g, ac a ehangwyd ymhellach i gyflenwi glo ar gyfer agerlongau a oedd yn dechrau masnachu o gwmpas y byd. Gosododd Cyfnewidfa Lo Caerdydd bris y byd am lo a daeth Caerdydd yn brif borthladd allforio glo'r byd. Roedd Maes Glo De Cymru ar ei anterth ym 1913 ac roedd yn un o feysydd glo mwyaf y byd.[3] Yn 2019 dim ond 2% o gyfanswm y trydan a gynhyrchwyd oedd canran y trydan a gynhyrchwyd o lo. Roedd yr orsaf bŵer glo olaf yng Nghymru yn Aberddawan, a gaeodd ei drysau o’r diwedd ym Mawrth 2020.[4]
Cyfanswm cynhwysedd y trydan a gynhyrchwyd o danwydd ffosil oedd 7.4 GW a daeth o dair ffynhonnell:
- pŵer nwy (5.6 GW) [4]
- glo (1.6 GW )
- disel (0.2 GW)
Ynni adnewyddadwy
[golygu | golygu cod]Yn 2018, cynhyrchodd Cymru fwy na 50% o’i defnydd o drydan fel trydan adnewyddadwy, cynnydd o 19% yn 2014. Gosododd Llywodraeth Cymru darged o 70% erbyn 2030.[5] Yn 2019, Cymru oedd y 5ed allforiwr trydan mwyaf yn y byd (22.7 TWh), yn bennaf i Iwerddon a Lloegr.[6][7]
Mae sylfaen adnoddau naturiol adnewyddadwy Cymru yn uchel o'i gymharu a gwledydd Ewrop; y prif ffynonellau craidd yw gwynt, tonnau a llanw. Mae gan Gymru hanes hir o ynni adnewyddadwy: yn y 1880au, roedd y tŷ cyntaf yng Nghymru gyda goleuadau trydan wedi’u pweru o’i gorsaf bŵer trydan dŵr ei hun ym Mhlas Tan y Bwlch, Gwynedd. Ym 1963 codwyd Pwerdy Ffestiniog i gynhyrchu trydan dŵr ar raddfa fawr, ac yn Nhachwedd 1973, agorwyd Canolfan y Dechnoleg Amgen ym Machynlleth.
Targedau ynni adnewyddadwy
[golygu | golygu cod]Yn 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru darged - y dylai 70% o drydan Cymruddod o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030. Erbyn 2018, roedd Cymru wedi cynhyrchu dros 3,864 MW o ynni adnewyddadwy o 68,728 o brosiectau.[1] Yn 2021, dywedodd Llywodraeth Cymru fod mwy na hanner anghenion ynni’r wlad yn cael eu diwallu gan ffynonellau adnewyddadwy, gyda 2 y cant o’r rhain yn dod o 363 o brosiectau ynni dŵr.[8]
Prosiectau ynni adnewyddadwy
[golygu | golygu cod]Morlyn Llanw Abertawe
[golygu | golygu cod]- Prif: Morlyn Llanw Abertawe
Yn 2015 cynigiwyd y syniad o godi morlyn llanw ar gyfer Bae Abertawe, i gynhyrchu trydan, gan fod amrediad llanw'r aber yr ail fwyaf yn y byd. Dernyniodd y cynllun gefnogaeth ac arian gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, ym Mehefin 2018, tynnodd Llywodraeth y DU gefnogaeth i’r cynllun yn ôl gan ffafrio ariannu gorsaf niwclear Sizewell yn ei le.[9][10]
Yn Ionawr 2023, daeth cyhoeddwyd ail gynllun ar gyfer prosiect morlyn llanw newydd yn Abertawe o'r enw "Blue Eden" a hwnnw wedi'i ariannu'n llawn gan y sector preifat. Byddai'n cynnwys ffatri cynhyrchu batris trydan, cyfleuster storio batris, fferm solar arnofiol, canolfan storio data, cyfleuster cynhyrchu hydrogen gwyrdd a chanolfan ymchwil newid hinsawdd a chefnforol. Dywedwyd y gallai'r prosiect ddechrau o fewn 18 mis.[11]
Llif llanw Morlais
[golygu | golygu cod]- Prif: Ynni Llif Llanw Morlais
Gallai prosiect llif llanw Morlais, a arweinir gan Menter Môn ar arfordir gorllewinol Ynys Môn, gyflenwi 40MW o ynni glân adnewyddadwy. Sicrhawyd £31 miliwn yn 2022, ar gyfer cam cyntaf y gwaith adeiladu, o gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yr UE drwy Lywodraeth Cymru.[12]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Energy Generation in Wales 2018" (PDF). Welsh Government. Welsh Government. Cyrchwyd 20 January 2021.
- ↑ "The Battle for Cefn Croes". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 October 2007. Cyrchwyd 15 July 2007.
- ↑ Hughes, Stephen R. (1994). Collieries of Wales: Engineering and Architecture. Aberystwyth: Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales. tt. 8–9. ISBN 978-1-871184-11-2.
- ↑ 4.0 4.1 Regen. "Energy Generation in Wales 2019" (PDF). Welsh Government. Welsh Government. Cyrchwyd 21 January 2023.
- ↑ "Renewable energy progress in Wales". regen. regen. Cyrchwyd 15 September 2021.
- ↑ Donovan, Owen. "Wales' Fiscal Future – Public Finances within the UK & Independence". The State of Wales. The State of Wales. Cyrchwyd 20 January 2021.
- ↑ Lloyd, Dai (14 November 2020). "Wales is not a global anomaly – it can be independent just like every other nation". Nation Cymru. Cyrchwyd 13 January 2021.
- ↑ Duggan, Craig (2 March 2021). "Climate change: Private hydropower schemes 'on cliff edge'". BBC News. Cyrchwyd 2 March 2021.
- ↑ "The real questions about the UK government's decision to cancel the Swansea Bay Tidal Lagoon". 6 July 2018.
- ↑ McIntyre, Fiona (July 3, 2018). "UK water industry 'could fund' £1.3bn Swansea Bay scheme". New Civil Engineer (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-08-23.
- ↑ "Green light expected for multi-billion-pound tidal lagoon project". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2023-01-12. Cyrchwyd 2023-01-18.
- ↑ "Morlais tidal project on Anglesey gets £31m EU funding". BBC News (yn Saesneg). 2022-03-22. Cyrchwyd 2023-01-18.