Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                
Neidio i'r cynnwys

Johann Jakob Griesbach

Oddi ar Wicipedia
Johann Jakob Griesbach
Portread pastel o Johann Jakob Griesbach gan arlunydd anhysbys (tua 1800)
Ganwyd4 Ionawr 1745 Edit this on Wikidata
Butzbach Edit this on Wikidata
Bu farw24 Mawrth 1812 Edit this on Wikidata
Jena Edit this on Wikidata
DinasyddiaethArchddugiaeth Hessen Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethieithegydd, diwinydd, academydd, llenor Edit this on Wikidata
Swyddrheithor Prifysgol Jena, rheithor Prifysgol Jena, rheithor Prifysgol Jena, rheithor Prifysgol Jena Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Diwinydd Protestannaidd a beirniad ysgrythurol o'r Almaen oedd Johann Jakob Griesbach (4 Ionawr 174524 Mawrth 1812)[1] a oedd yn un o'r rhesymolwyr blaenaf mewn ysgolheictod Beiblaidd yn ystod yr Oleuedigaeth. Efe oedd y cyntaf i ddadansoddi'r Pedair Efengyl trwy ddulliau beirniadaeth destunol, a bathodd y term synoptische ("cyfolwg") i ddisgrifio'r tair Efengyl gyntaf. Gwrthodai Griesbach y farn draddodiadol am awduraeth yr Efengylau, gan haeru bod Marc yn tarddu o Mathew a Luc.

Ganed ef yn Butzbach, Tiriarllaeth Hessen-Darmstadt, yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Addysgwyd ef yn Frankfurt am Main, a chwblhaodd ei efrydiau ym mhrifysgolion Tübingen, Halle, a Leipzig. Enwogodd ei hun yn arbennig mewn ymchwiliadau diwinyddol a Beiblaidd, ac efe oedd hoff ddisgybl yr hanesydd eglwysig Johann Salomo Semler a'r ieithegwr ac esboniwr Johann August Ernesti. Cyn ei fod yn 24 oed, penderfynodd i ymroddi i astudio athrawiaethau a thestun y Testament Newydd. Er cyflawni ei gynllun, aeth ar daith lenyddol trwy'r Almaen, yr Iseldiroedd, a Lloegr, a gwnaeth iddo'i hun gyfeillion ymysg llenorion blaenaf y gwledydd hynny, a chasglodd ystorfa werthfawr o ddefnyddiau at ei waith mawr.

Ym 1770, dychwelodd i Frankfurt i'w trefnu ac i gynllunio'r defnyddiau hyn, ond yn y flwyddyn ddilynol penodwyd ef yn ddarlithydd diwinyddol, ac ym 1773 yn athro diwinyddol, yn Halle. Enwogodd ei hun gymaint yn y swydd hon fel y cynigiwyd iddo'r swydd o athro astudiaethau'r Testament Newydd ym Mhrifysgol Jena. Derbyniodd yr honno ym 1775, ac ym 1780 dyrchafwyd ef yn beriglor y brifysgol, ac i amryw swyddi pwysig eraill. Enwyd ef yn gynghorwr eglwysig i Ddug Sachsen-Weimar, ac yr oedd eisoes wedi ei wneuthur yn brelad dosbarth Weimar. Tua deng mlynedd cyn hyn yr oedd Griesbach wedi priodi chwaer i'r enwog Schültz, gyda'r hon y bu fyw yn ddedwydd hyd ei farwolaeth, yn Jena, Thuringia, yn 67 oed.

Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf o'i destun ef o'r Testament Newydd Groeg yn Halle, ym 1754, yn y ffurf o lawlyfr i'r efrydwyr a wrandawent ei ddarlithiau. Cyhoeddwyd y gyfrol gyntaf o'r ail argraffiad ym 1796, a'r ail ym 1807. Toddwyd llythrennau newyddion yn bwrpasol ar gyfer yr argraffiad hwn gan y gwneuthurwr enwog Göschen, ac am fod Dug Grafton, canghellor Prifysgol Caergrawnt, yn mynd i'r draul o baratoi'r papur, cyhoeddodd yr awdur diolchgar ei lyfr yn Llundain a Halle ar yr un pryd.

Mae adolygiad Griesbach ar destun y Testament Newydd wedi ei seilio ar gyferbyniad rhwng y tri dosbarth mawr o'r amrywiol lawysgrifau Groegaidd, sef y llawysgrifau Alecsandraidd, Gorllewinol, a Bysantaidd neu Asiaidd. O'r rhain, y cyntaf ydy'r orau o lawer, yn ôl barn Griesbach, oherwydd y cyd-drawiad sydd yn y dyfyniadau ysgrythurol sydd ar gael yng ngweithiau Origen a thestun y llawysgrif Alecsandraidd enwog o'r Testament Newydd.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Johann Jakob Griesbach. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Mawrth 2022.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.