Modd amodol
Ffurf ferfol mewn llawer o ieithoedd yw'r modd amodol. Fe'i defnyddir i gyfeirio at weithred neu gyflwr sy'n ansicr, neu sy'n dibynnu ar i ryw weithred arall ddigwydd. Un o'r tair ffurf gryno sydd gan y rhan fwyaf o ferfau Cymraeg yw'r amodol. Rhoddir enghreifftiau o ffurfiau amodol isod. Defnyddir y ffurfiau hyn fel ffurfiau amodol yn yr iaith llafar. Yn yr iaith ysgrifenedig, defnyddir yr un ffurfiau neu ffurfiau tebyg i gyfleu'r amherffaith hefyd.
canu | hoffi | gallu | |
1af unigol | canwn i | hoffwn i | gallwn i |
2il unigol | canet ti | hoffet ti | gallet ti |
3ydd unigol | canai (f)e / (f)o | hoffai (f)e / (f)o | gallai (f)e / (f)o |
1af lluosog | canen ni | hoffen ni | gallen ni |
2il lluosog | canech chi | hoffech chi | gallech chi |
3ydd lluosog | canen nhw | hoffen nhw | gallen nhw |
Nid oes gan y ferf dylai ond ffurfiau amodol (mi ddylwn i ond nid *mi ddylaf i neu mi ddylais i).
Ymysg yr ieithoedd eraill sydd â ffurfiau cryno i gyfleu ystyr amodol y mae'r rhan fwyaf o'r ieithoedd Romáwns, gan gynnwys Ffrangeg, Eidaleg a Sbaeneg. Yn yr ieithoedd Germanaidd, does dim ffurfiau amodol ar y ferf. Yn eu lle, defnyddir ymadrodd cwmpasog yn defnyddio berf gynorthwyol megis Saesneg would neu Almaeneg würde. Mae gan Rwsieg geiryn amodol by sy'n cyfleu'r un ystyr.