Nyrsio
Nyrsio ydy bod yn gyfrifol am gleifion mewn ysbyty ac yn y cartref, a hynny fel arfer o dan goruchwyliaeth berson proffesiynol; yn gyfrifol am weinyddu'r driniaeth ar eu cyfer, a gwneud yn siwr eu bon nhw'n gwella. Ceir gwahanol fathau o bobl sy'n nyrsio gan gynnwys paramedics a bydwragedd. Erbyn heddiw, fe all y nyrs (o barhau gyda'i haddysg), ennill gradd PhD, gan fynd yn feddyg.
Yn draddodiadol, merch yw mwyafrif sylweddol y gweithlu, er bod mwy-a-mwy o ddynion yn ymuno â'r proffesiwn.
Un o'r nyrsus enwocaf yw Beti Cadwaladr (1789 – 1860). Yn chwe deg pump oed, penderfynodd fynd i nyrsio i Ryfel y Crimea ar ôl darllen am ddioddefaint y milwyr yno. Roedd cannoedd o filwyr yn marw am nad oedd digon o nyrsys a meddygon ar gael. Cyrhaeddodd Beti Cadwaladr ysbyty Scutari lle roedd Florence Nightingale yng ngofal y nyrsys. Gwrthododd Florence Nightingale gymorth Beti a'r nyrsys eraill a ddaeth drosodd, gan ddweud bod digon o nyrsys ar gael. Roedd hi'n daith chwe niwrnod i'r milwyr clwyfedig ddod o'r Crimea, ac roedd Beti yn gweld hyn yn ffolineb llwyr. Fe benderfynodd fynd dros y môr i'r Crimea atynt, ac aeth â nyrsys eraill gyda hi i ysbyty yn Balaclava. Gweithiodd Beti a'r lleill yn galed mewn amgylchiadau anodd iawn.