Opera buffa
Mae Opera Buffa yn derm Eidaleg sy'n golygu opera comig.[1]. Fe'i defnyddir yn bennaf ar gyfer operâu comig Eidalaidd o'r 18 ganrif. Mae opera buffa yn gwrthgyferbynnu ag opera seria (opera ddifrifol) lle'r oedd y stori yn drasiedi. Roedd Opera Seria i fod yn ddifrifol, tra bod opera buffa yn gomedi cerddorol difyr. Fel yr opera seria, cafodd popeth ei ganu, nid oedd unrhyw ddeialog llafar. Roedd hyn yn wahanol i opera comig mewn gwledydd eraill. Mae'r stori yn opera buffa yn cael ei adrodd trwy adroddgan gydag ariâu yn cael eu defnyddio er mwyn i'r cymeriadau ddangos eu teimladau a dangos eu lleisiau.
Yn y 18 ganrif fe ddefnyddiwyd enwau eraill am yr hyn a elwir yn opera buffa heddiw, e.e. Commedia in musica, drama giocosa, operetta, burlesca ac ati. Fel arfer, bu opera buffa yn waith llawn: un fyddai'n cyflenwi adloniant ar gyfer noson gyfan. Roedd yn wahanol i intermezzo neu farsa a oedd yn gomedi cerddorol ber a berfformiwyd yn ystod y toriad rhwng sioeau drasiedi cerddorol, er nad yw'r gwahaniaeth rhwng y ddau bob amser yn amlwg. Daeth yr intermezzo yn hirach ac yn hirach yn ystod y 18 ganrif ac fe'i datblygwyd i opera buffa yn raddol. Roedd intermezzo Pergolesi La Serva Padrone yn intermezzo a ddaeth yn enwog iawn ar ôl ei farwolaeth a chafodd dylanwad mawr ar ddatblygiad opera buffa.
Roedd opera buffa bob amser yn cynnwys llawer o gymeriadu. Dangosodd y cymeriadau wendidau dynol megis twpdra, trachwant, ymffrost, gwanc a rhodres (pobl a oedd yn esgus bod yn ddoeth ac yn bwysig). Maent yn aml yn gwneud hwyl am ben y dosbarth llywodraethol.
Mewn opera buffa roedd yr actio bob amser yn bwysig iawn. Roedd yn sioe fywiog iawn, gyda llawer yn digwydd yn gyflym iawn. Ar ddiwedd pob act, roedd y prif gymeriadau'n canu gyda'i gilydd: gelwir hyn yn ensemble (y gair Ffrangeg ar gyfer gyda'i gilydd).
Dechreuodd opera buffa yn Napoli a'i lledaenu'n raddol i rannau eraill o'r Eidal. Roedd yn arbennig o boblogaidd ar adeg carnifal. Mae cyfansoddwyr pwysig opera buffa yn cynnwys Carlo Goldoni a Baldassare Galuppi.
Erbyn diwedd y 18 ganrif nid oedd bob amser yn bosibl gwahaniaethu rhwng opera buffa ac opera seria. Mae opera Mozart, Don Giovanni, er enghraifft, yn cynnwys llawer o gomedi, ond mae iddi ochr ddifrifol hefyd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Weiss, P., & Budden, J. (2001, January 01). Opera buffa. Grove Music Online adalwyd 10 Hydref. 2018