Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                
Neidio i'r cynnwys

The Thick of It

Oddi ar Wicipedia

Cyfres gomedi teledu sy'n dychanu gweithredau gwleidyddion a gweision sifil Prydeinig yw The Thick of It. Darlledwyd y gyfres yn gyntaf ar y sianel ddigidol BBC Four mewn dwy gyfres o dair rhaglen hanner-awr o hyd yn y flwyddyn 2005 a darlledwyd dwy rhaglen un-awr arbennig ym mis Ionawr 2007 a Gorffennaf 2007. Enillodd y gyfres nifer o wobrau comedi, yn cynnwys dwy wobr yng Ngwobrau Comedi Prydain 2005 a dwy wobr BAFTA yn 2006.

Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato