Via Egnatia
Math | ffordd filwrol, ffordd Rufeinig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Twrci |
Roedd y Via Egnatia (Groeg: Εγνατία Οδός) yn ffordd Rufeinig yn y Balcanau a adeiladwyd gan y Rhufeiniaid yn yr 2ail ganrif CC. Roedd yn croesi taleithiau Rhufeinig Illyria, Macedonia, a Thrace, gan redeg trwy diriogaeth sydd heddiw'n rhan o Albania, Gweriniaeth Macedonia, Gwlad Groeg, a rhan Ewropeaidd Twrci.
Gan ddechrau yn ninas Dyrrachium (Durrës heddiw, Albania) ar lan Môr Adria, dilynai'r ffordd lwybr anodd ar hyd afon Genusus (Afon Skhumbini), dros fynyddoedd Candaviae ac ymlaen i'r ucheldiroedd o gwmpas Llyn Ohrid. Roedd yn troi i'r de wedyn, gan ddilyn sawl bwlch uchel i gyrraedd arfordir gogleddol Môr Aegea yn Thessalonica. O fan 'na rhedai ymlaen trwy Thrace i ddinas Byzantium (Istanbul heddiw). Ei hyd oedd tua 1,120 km (696 milltir fodern / 746 milltir Rufeinig).
Hanes
[golygu | golygu cod]Adeiladwyd y Via Egnatia i gysylltu'r gwladfeydd Rhufeinig rhwng Môr Adria a'r Bosphorus. Gorweddai pennau'r Via Egnatia a'r Via Appia, yn arwain i ddinas Rhufain ei hun, gyferbyn â'u gilydd ar Fôr Adria. Felly roedd y ffordd yn gysylltiad uniongyrchol rhwng gwladfeydd de'r Balcanau a Rhufain. Yn ogystal roedd yn gyswllt hanfodol i'r tiriogaethau Rhufeinig yn Asia Leiaf; cyn i ffordd fwy gogleddol gael ei hagor gan Augustus hon oedd prif gyswllt Rhufain ar dir â'i thiriogaethau yn nwyrain Môr y Canoldir.
Chwareodd ran bwysig yn hanes Rhufain. Teithiodd byddinoedd Iŵl Cesar a Pompey ar hyd y Via Egnatia yn y rhyfel cartref, ac yn ddiweddarach aeth Marc Antoni ac Octavian ar ôl Cassius a Brutus i'w hymladd ym Mrwydr Philippi. Atgyweirwyd y ffordd gan Trajan cyn ei ymgyrch yn OC 113 yn erbyn y Parthiaid. Ond erbyn y 5g roedd y ffordd mewn cyflwr gwael.
Cafodd ei hatgyweirio eto gan y Bysantiaid ond ni ddaeth yn ôl i'w hen ogoniant. Heddiw mae'r ffordd Εγνατία Οδός yn dilyn ei chwrs yng Ngwlad Groeg.
Prif drefi ar y Via Egnatia
[golygu | golygu cod](wedi'u rhestri o'r gorllewin i'r dwyrain)
Enw hynafol | Enw diweddar | Gwlad bresennol |
---|---|---|
Dyrrachium, wedyn Epidamnos | Durrës | Albania |
Claudiana | Peqin | Albania |
Apollonia | Ger pentref Pojani (7 km i'r gorllewin o Fier) | Albania |
Masio Scampa | Elbasan | Albania |
Lychnidos | Ohrid | Gweriniaeth Macedonia |
Heraclea Lyncestis | 2 km of Bitola | Gweriniaeth Macedonia |
Florina | Florina | Gwlad Groeg |
Edessa | Edessa | Gwlad Groeg |
Pella | Pella | Gwlad Groeg |
Thessalonica | Thessaloniki | Gwlad Groeg |
Pydna | Efallai Kitros, ger Pydna | Gwlad Groeg |
Amphipolis | Ampifoli | Gwlad Groeg |
Philippi | 14 km o Kavala | Gwlad Groeg |
Neapolis | Kavala | Gwlad Groeg |
Traianoupolis | Traianoupoli | Gwlad Groeg |
Kypsela | İpsala | Twrci |
Aenus | Enez | Twrci |
Aproi (neu Apros, Apris, Aprī,...) | Pentref Kermeyan | Twrci |
Perinthus, wedyn Heraclea | Marmaraereğlisi | Twrci |
Rhegion | Küçük Çekmece, ger Istanbul | Twrci |
Adrianople (Adrianopolis) | Edirne | Twrci |
Caenophrurium | Çorlu | Twrci |
Melantias | safle anhysbys | Twrci |
Byzantium, wedyn Caer Gystennin | Istanbul | Twrci |
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Michele Fasolo: La via Egnatia I. Da Apollonia e Dyrrachium ad Herakleia Lynkestidos, Istituto Grafico Editoriale Romano, II ediz., Roma 2005
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Hanes Ffeil PDF