Wicipedia:Ar y dydd hwn/Mai
1 Mai: Calan Mai, Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr, Gŵyl mabsant Asaph a Briog
- 1707 – pasiwyd Deddf Uno teyrnasoedd yr Alban a Lloegr
- 1869 – cyhoeddwyd papur newydd y Western Mail am y tro cyntaf
- 1893 – agorwyd Ffair y Byd yn Chicago, UDA, yn dathlu 400-mlwyddiant glaniad Columbus yn yr Amerig; ymhlith yr atyniadau roedd eisteddfod
- 1931 – yn Efrog Newydd, agorwyd Adeilad Empire State, adeilad tala'r byd ar y pryd
- 1821 – bu farw Hester Thrale, ffrind a gohebydd Samuel Johnson, ac un o ddisgynyddion Catrin o Ferain.
- 1867 – ganwyd y bardd Eifion Wyn ('Gwn ei ddyfod fis y mêl...')
- 1880 – ganwyd y bardd I. D. Hooson yn Rhosllanerchrugog
- 1996 – estynwyd Rheilffordd Llangollen i Garrog
- 1230 – crogwyd Gwilym Brewys am ei garwriaeth â'r dywysoges Siwan, gwraig Llywelyn Fawr
- 1469 – ganwyd yr athronydd gwleidyddol Niccolò Machiavelli yn Fflorens, yr Eidal
- 1950 – ganwyd y gantores Mary Hopkin ym Mhontardawe
- 2007 – diflannodd Madeleine McCann, y ferch 3-oed, tra ar ei gwyliau ym Mhortiwgal.
- 1904 – cyfarfu Charles Rolls, o Drefynwy, â Henry Royce am y tro cyntaf
- 1926 – parlyswyd gwledydd Prydain am naw diwrnod gan Streic Gyffredinol y Deyrnas Unedig 1926
- 1929 – ganwyd yr actores Audrey Hepburn yng Ngwlad Belg
- 1980 – bu farw'r gwladweinydd Iwgoslafaidd Josip Broz Tito
- 1990 – bu farw'r bardd a chyfarwyddwr ffilm John Ormond
- 1405 – ymladdwyd Brwydr Pwll Melyn yng ngwrthryfel Owain Glyn Dŵr
- 1886 – sefydlwyd Cymdeithas Dafydd ap Gwilym, cymdeithas Gymraeg Prifysgol Rhydychen
- 1920 – ganed yr hanesydd Glanmor Williams yn Nowlais
- 1977 – bu farw'r gyrrwr Fformiwla 1 o Ruthun Tom Pryce mewn damwain yn Grand Prix De Affrica
- 1981 – bu farw Bobby Sands, aelod o'r IRA, yng ngharchar y Long Kesh
- 2012 – agorwyd Llwybr Arfordir Cymru
- 1937 – dinistriwyd llong awyr yr Hindenburg gan dân wrth iddi lanio yn New Jersey, UDA, gan ladd 36 o bobl
- 1954 – yn Rhydychen, rhedodd Roger Bannister filltir mewn pedair munud namyn eiliad, gan dorri record y cyfnod
- 1958 – crogwyd Vivian Teed yng Ngharchar Abertawe, y tro olaf i'r gosb eithaf gael ei gweinyddu yng Nghymru
- 1970 – bu farw'r nofelydd Cymreig a ysgrifennai yn Saesneg, Jack Jones
- 1999 – cynhaliwyd yr etholiad cyntaf erioed ar gyfer aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd yr Alban
- 1120 – trosglwyddwyd creiriau'r sant Dyfrig o Ynys Enlli i Eglwys Gadeiriol Llandaf
- 1824 – perfformiwyd 9fed Symffoni Ludwig van Beethoven am y tro cyntaf erioed, yn Fienna, prifddinas Awstria
- 1915 – suddwyd y llong Lusitania gan long danfor o'r Almaen
- 1916 – ganwyd y darlledwr Syr Huw Wheldon ym Mhrestatyn
- 2015 – Yr Alban yn ethol 56 Aelod Seneddol SNP yn yr Etholiad Cyffredinol.
8 Mai: Diwrnod Rhyngwladol y Groes Goch
- 1648 – ymladdwyd Brwydr Sain Ffagan, y frwydr fawr olaf i'w hymladd ar dir Cymru
- 1704 – ganwyd a bedyddiwyd yr arwres drasig y Ferch o Gefn Ydfa
- 1874 – bu farw'r Siartydd Zephaniah Williams yn Tasmania
- 1885 – ganwyd yr hynafiaethydd Bob Owen, Croesor yn Llanfrothen
- 1945 – diwrnod cyhoeddi diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop
- 1957 – ganwyd Eddie Butler, ymgyrchydd dros annibyniaeth Cymru a newyddiadurwr
9 Mai: Diwrnod Ewrop, Diwrnod annibyniaeth Rwmania (1877), Gŵyl mabsant Melyd
- 1191 – sefydlwyd Abaty Tyndyrn
- 1805 – bu farw'r bardd o Almaenwr Friedrich Schiller
- 1918 – ganwyd yr arlunydd Kyffin Williams yn Llangefni
- 1956 – cafodd Penrhyn Gŵyr ei ddynodi'n statudol fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, yr ardal gyntaf o'i bath yn Ynysoedd Prydain.
- 1372 – arwyddwyd cytundeb rhwng Owain Lawgoch a Siarl V, brenin Ffrainc.
- 1356 – enillwyd Brwydr Poitiers gan y fyddin Seisnig gyda chymorth saethyddion Cymreig
- 1815 – ganwyd John Nixon, peiriannydd, sylfaenydd y Glofa Navigation
- 1904 – marw'r newyddiadurwr a'r fforiwr Henry Morton Stanley yn 63 oed
- 1940 – cychwynodd y Frwydr dros Ffrainc
- 2020 – deufis i fewn i'r pandemig Coronafirws, gwrthododd yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru slogan Boris Johnson "Stay Alert", gan fynd am "Arhoswch gartref" yn hytrach; dechrau'r gwahaniaethu rhwng y gwledydd.
11 Mai: Diwrnod annibyniaeth Lwcsembwrg (1867)
- 330 – gwnaed Caergystennin, Byzantion gynt, yn brifddinas newydd yr Ymerodraeth Rufeinig
- 1648 – cipiwyd Castell Cas-gwent gan fyddin Oliver Cromwell
- 1839 – bu farw John Harries, Cwrt-y-cadno, meddyg traddodiadol a "dewin"
- 1880 – ganwyd y gwleidydd David Davies, Barwn 1af Davies o Landinam
- 1894 – bu farw John Roberts (Telynor Cymru)
12 Mai: Diwrnod Rhyngwladol y Nyrs
- 1884 – bu farw'r cyfansoddwr o wlad Tsiec, Bedřich Smetana
- 1916 – dienyddiwyd y gweriniaethwr Gwyddelig, James Connolly (Séamas Ó Conghaile) a Seán Mac Diarmada
- 1945 – symudwyd paentiadau gwerthfawr o'r Oriel Genedlaethol yn Llundain i Chwarel Manod
- 1972 – agorwyd Atomfa'r Wylfa ar Ynys Môn
- 1975 – ganwyd y chwaraewr rygbi Jonah Lomu yn Auckland, Seland Newydd
- 1737 – ganwyd y diwydiannwr Thomas Williams, Llanidan
- 1835 – bu farw'r pensaer John Nash
- 1839 – ymosodiad cyntaf Merched Beca, ar dollborth Efail-wen yn Sir Gaerfyrddin
- 1867 – ganwyd yr arlunydd Frank Brangwyn yn Brugge, Gwlad Belg, i fam Gymreig a thad o dras Cymreig
- 1985 – ganwyd yr actor Iwan Rheon yng Nghaerfyrddin
- 1771 – ganwyd y sosialydd Iwtopaidd Robert Owen yn y Drenewydd, Powys; tad y cysyniad o gymuned gyd-weithredol
- 1826 – daeth 700 o Gymry at ei gilydd yn Rhyfel y Sais Bach, gan atal tirfeddiannwr o Swydd Lincoln rhag codi plasty yn Llangwyryfon
- 1888 – ganwyd Nansi Richards, 'Telynores Maldwyn'
- 1928 – ganwyd Che Guevara, chwyldroadwr
- 1933 – ganwyd yr actores Siân Phillips
- 1951 – ailagorwyd Rheilffordd Talyllyn, y rheilffordd dreftadaeth gyntaf yn y byd.
15 Mai: Gŵyl mabsant Carannog a Diwrnod Nakba - i gofio am y diwrnod hwnnw yn 1948 pan gollodd y Palesteiniaid eu tir i Israel.
- 1782 – bu farw'r arlunydd Richard Wilson
- 1886 – bu farw'r bardd Americanaidd Emily Dickinson
- 1920 – bu farw Owen Morgan Edwards yn Llanuwchllyn
- 1967 – cyhoeddwyd fod Merched y Wawr yn fudiad annibynol
- 2002 – cyhoeddwyd Casnewydd yn ddinas
- 1628 – ganwyd yr awdur Ffrengig Charles Perrault
- 1831 – ganwyd David Edward Hughes, dyfeisiwr y meicroffon, yng Nghorwen
- 1920 – gwnaed Jeanne d'Arc yn santes gan y Pab Bened XV
- 1954 – ganwyd y gofodwr o dras Gymreig Dafydd Williams yn Saskatoon, Saskatchewan, Canada
17 Mai: Diwrnod Cenedlaethol Norwy; Diwrnod Llenyddiaeth Galisia; Dydd Gŵyl Cathen
- 1510 – bu farw'r arlunydd o Eidalwr Sandro Botticelli
- 1614 – ordeiniwyd Rhys Prichard (y Ficer Prichard) yn Ganon Coleg Aberhonddu, awdur Canwyll y Cymry
- 1682 – ganwyd Bartholomew Roberts ("Barti Ddu"), môr-leidr
- 1792 – ffurfiwyd marchnad stoc Efrog Newydd ar Wall Street
- 1958 – ganwyd y digrifwr Paul Whitehouse yn y Rhondda
18 Mai: Diwrnod Rhyngwladol Amgueddfeydd
- 1048 – ganwyd y bardd Omar Khayyam
- 1872 – ganwyd yr athronydd Bertrand Russell yn Nhryleg, Sir Fynwy
- 1899 – ganwyd y bardd o Gwm Tawe: Gwenallt
- 1911 – bu farw'r cyfansoddwr Gustav Mahler
- 1922 – darlledwyd Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd am y tro cyntaf
19 Mai: Dydd coffa Mustafa Kemal Atatürk yn Nhwrci a Malcolm X yn Unol Daleithiau America
- 1812 – ganwyd yr Arglwyddes Charlotte Guest
- 1840 – bu farw'r bardd a'r offeiriad John Blackwell (Alun)
- 1898 – bu farw'r cyn-Brif Wenidog, William Ewart Gladstone, yng Nghastell Penarlâg
- 1914 – pasiwyd Deddf Datgysylltu'r Eglwys yng Nghymru
- 1956 – estynwyd Rheilffordd Ffestiniog i Finffordd
- 2018 – priodas Tywysog Harri o Loegr a'r actores Meghan Markle.
- Diwrnod Gwenyn y Byd
- Diwrnod annibyniaeth Ciwba (1902) a Dwyrain Timor (2002)
- 1731 – ganwyd y bardd Evan Evans (Ieuan Fardd)
- 1799 – ganwyd y llenor Ffrengig Honoré de Balzac
- 1880 – ganwyd y llenor Robert John Rowlands (Meuryn)
- 1944 – Refferendwm Annibyniaeth Gwlad yr Iâ o Denmarc
- 1971 – bu farw Waldo Williams yn 66 oed
- 1471 – ganwyd yr arlunydd Albrecht Dürer yn Nürnberg, yr Almaen
- 1558 – bu farw William Glyn, esgob Catholig olaf Bangor
- 1821 – bu farw John Jones (Jac Glan-y-gors), awdur pamffledi gwleidyddol a bardd dychanol
- 1841 – ganwyd y cyfansoddwr a cherddor Joseph Parry ym Merthyr Tudful
- 1927 – glaniodd Charles Lindbergh ym Mharis, wedi iddo hedfan yn ddi-dor ar draws Cefnfor yr Iwerydd
22 Mai: Gŵyl mabsant Elen Luyddog
- 1859 – ganwyd y llenor Jonathan Ceredig Davies yn Llangynllo, Ceredigion
- 1885 – bu farw'r llenor Ffrengig Victor Hugo
- 1890 – gyhoeddwyd y papur newydd Y Cymro am y tro cyntaf
- 1987 – bu farw Keidrych Rhys, bardd a golygydd y cylchgrawn Wales
- 1976 – estynwyd Rheilffordd Talyllyn i Nant Gwernol
23 Mai: Diwrnod Rhyngwladol y Crwban
- 1120 – ail-gladdwyd creiriau'r sant Dyfrig yng nghadeirlan Llandaf, ar ôl eu trosglwyddo o Ynys Enlli
- 1533 – diddymwyd priodas Harri VIII, brenin Lloegr, a Chatrin o Aragon
- 1832 – sefydlwyd Cwmni Rheilffordd Ffestiniog, y cwmni rheilffordd hyna'r byd sy'n dal i weithio
- 1970 – llosgwyd Pont Britannia ar ddamwain gan ddau fachgen
- 1981 – ganwyd y gantores bop Gwenno Saunders yng Nghaerdydd
- 1995 – cyrhaeddodd Caradog Jones gopa Mynydd Chomolungma (Everest): y Cymro cyntaf i wneud hynny.
- 1738 – cafodd John Wesley droedigaeth, gan arwain at sefydlu'r Mudiad Methodistaidd.
- 1789 – ganwyd y nyrs Betsi Cadwaladr yn Llanycil, Gwynedd
- 1798 – dechrau Gwrthryfel Gwyddelig 1798
- 1941 – ganwyd y cerddor Bob Dylan
- 1901 – 81 o ddynion yn marw yn dilyn ffrwydriadau yn Nhanchwa 1af Senghennydd
25 Mai: Diwrnod Affrica; Diwrnod annibyniaeth Gwlad Iorddonen (1946)
- 1735 – troedigaeth Howel Harris, un o brif sylfaenwyr Methodistiaeth yng Nghymru
- 1784 – ganwyd y Siartydd John Frost yng Nghasnewydd
- 1803 – ganwyd yr athronydd o Americanwr Ralph Waldo Emerson
- 1865 – cychwynodd llong y Mimosa ei thaith o Lerpwl i Batagonia gyda 153 o Gymru arni.
- 1986 – ganwyd Geraint Thomas, seiclwr ac enillydd y Tour de France a nifer o fedalau aur Olympaidd
26 Mai: Gŵyl mabsant Ffagan; dyddiau annibyniaeth Georgia (1918) a Gaiana (1966)
- 735 – bu farw'r hanesydd Seisnig Beda
- 1897 – cyhoeddwyd nofel Bram Stoker, Dracula
- 1923 – cynhaliwyd y ras geir 24 awr cyntaf yn Le Mans, gan ddechrau ar 26 Mai a gorffen y diwrnod wedyn
- 1986 – mabwysiadwyd Baner Ewrop
- 1999 – agoriad swyddogol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Senedd Cymru bellach, yn yr adeilad a elwir heddiw'n Dŷ Hywel
- 1703 – sefydlwyd dinas Saint Petersburg, Rwsia, gan y tsar Pedr Fawr
- 1903 – cyrhaeddodd syrcas William Cody y Rhyl, sef syrcas yr enwog Buffalo Bill
- 1937 – agorwyd Pont Golden Gate, San Francisco, Unol Daleithiau America
- 1964 – bu farw Jawaharlal Nehru, prif weinidog cyntaf India annibynnol
- 2009 – bu farw Syr Clive W. J. Granger, ennillydd Gwobr Economeg Nobel, yn enedigol o Abertawe.
- 1865 – hwyliodd llong y Mimosa o Lerpwl, yn cario'r fintai gyntaf o ymfudwyr o Gymru i Wladfa Patagonia
- 1883 – ganwyd y pensaer Clough Williams-Ellis, cynllunydd Portmeirion
- 1887 – bu farw Dan Isaac Davies, un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (1885)
- 1920 – ganwyd yr awdur W. S. Jones (Wil Sam) (m. 2007), yn Llanystumdwy, Gwynedd
- 1971 – agorwyd Rheilffordd Llyn Padarn
- 470 – diwrnod Brad y Cyllyll Hirion, torrodd y Sacson Hengist ei air a lladdwyd 99 o Gymru
- 1593 – crogwyd John Penry, merthyr Protestanaidd a fynnai bregethu yn Gymraeg
- 1660 – esgynodd Siarl II i orsedd yr Alban, Iwerddon a Lloegr, gan adfer y frenhiniaeth yng ngwledydd Prydain ar ôl cyfnod o werinlywodraeth.
- 1913 – perfformiwyd Le Sacre du printemps, ballet gan Igor Stravinsky, am y tro cyntaf
- 1953 – dringodd Edmund Hillary a Tenzing Norgay i ben Chomolungma (Saesneg: Everest).
30 Mai: Gŵyl santes Jeanne d'Arc (Catholigiaeth)
- 1640 – bu farw'r arlunydd o Fflandrys, Peter Paul Rubens
- 1869 – ganwyd y diwynydd Thomas Rees yn Llanfyrnach, Sir Benfro
- 1912 – ganwyd yr actor Hugh Griffith ym Marianglas, Sir Fôn
- 1929 – yn Etholiad Cyffredinol 1929, etholwyd y ferch gyntaf yn Aelod Seneddol Cymreig (Megan Lloyd George), safodd yr ymgeisiydd cyntaf ar gyfer Plaid Cymru (Lewis Valentine) ac etholwyd Aneurin Bevan yn AS.
- 2022 – daeth y cyfyngiadau COVID-19 olaf yng Nghymru i ben.
- 1279 CC – gwnaed Ramesses II yn Pharo yr Aifft
- 1880 – ganwyd y llenor Edward Tegla Davies (awdur Hunangofiant Tomi) yn Llanarmon-yn-Iâl ger Rhuthun
- 1929 – cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol gyntaf Urdd Gobaith Cymru yng Nghorwen
- 2010 – ymosododd Israel ar lynges ddyngarol ar ei ffordd i Gaza
|