Anhwylder deubegwn
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | anhwylder hwyliau |
Arbenigedd meddygol | Seiciatreg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | anhwylder hwyliau |
Arbenigedd meddygol | Seiciatreg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Categori o anhwylderau tymer a ddiffinir gan bresenoldeb episodau o dymer uchel iawn iawn (mania) ac episodau o dymer isel iawn iawn (iselder) yw anhwylder deubegwn neu anhwylder affeithiol deubegwn. Gall episodau manig eithafol arwain at symptomau seicotig megis rhithdybiau a rhithwelediadau.
Hen derm arno yw iselder manig; mae gan y term hwn rhywfaint o warthnod wedi'i gysylltu ato.
Symptomau
[golygu | golygu cod]Prif symptomau anhwylder deubegwn yw pendilio o episodau manig, sef teimlo'n eithriadol o hapus, i episodau isel, sef teimlo'n eithriadol o drist. Mae'r cyfnodau o fania ac iselder yn eithriadol a, heb eu trin, gallant amharu ar fywyd bob dydd y claf. Yn ystod y ddau fath o episod, mae'n bosib i glaf brofi rhithwelediadau, sef synhwyro pethau nad ydynt yn bodoli, neu rithdybiau, sef credu mewn pethau sy'n ymddangos yn afresymol i bobl eraill; gelwir hyn yn episod seicotig.[1]
Episod isel
[golygu | golygu cod]Yn ystod episod isel gall symptomau gynnwys teimlo'n drist iawn ac yn anobeithiol, arafu'n feddyliol ac yn gorfforol, diffyg egni, ei chael yn anodd canolbwyntio, colli diddordeb mewn gweithgareddau pob dydd, teimlo'n wag ac yn ddiwerth, teimlo'n eithriadol o besimistaidd, teimladau difrifol o hunan-amheuaeth, ei chael yn anodd cysgu neu ddihuno'n gynnar, neu feddyliau am hunanladdiad.[1]
Episod manig
[golygu | golygu cod]Fel arfer, daw episod manig ar ôl rhwng dau a phedwar episod isel, a gall gynnwys teimlo'n eithriadol o hapus, yn orfoleddus neu'n ewfforig, teimlo'n llawn egni, diffyg teimlo fel mynd i gysgu, teimlo'n llawn syniadau newydd gwych, neu deimlo'n bwysig. I bobl eraill, gall person ag anhwylder deubegwn sy'n profi episod manig ymddangos fel eu bod yn siarad yn gyflym iawn, yn newid y pwnc yn aml, yn gyffredinol yn ymddwyn mewn ffordd ryfedd, anarferol a diymatal, yn ymddangos nad ydynt yn gallu eistedd yn llonydd neu ymlacio, yn gwneud penderfyniadau heb feddwl yn iawn am bethau, ac yn gwneud pethau neu wario arian yn fyrbwyll. Yn aml, ni all person sy'n profi episod manig sylweddoli bod unrhyw beth o'i le, ac efallai y bydd yn ymddangos bod pobl eraill yn bod yn feirniadol, yn negyddol neu'n lletchwith.[1]
Achosion
[golygu | golygu cod]Nid yw'r union hyn sy'n achosi anhwylder deubegwn yn hysbys. Ymddengys ei fod yn rhedeg mewn teuluoedd, sy'n awgrymu ei fod i raddau yn anhwylder genetig: mae gan tua 10–15% o berthnasau agosaf pobl ag anhwylder deubegwn anhwylder tymer hefyd. Mae'n hysbys hefyd y gall digwyddiadau bywyd llawn straen a salwch corfforol achosi cyfnodau o'r anhwylder, felly mae'r achosion yn sicr yn gymhleth.[2]
Dangosa ymchwil bod newidiadau yng nghemeg yr ymennydd yn ystod episodau manig ac isel, gan gynnwys newidiadau mewn lefelau niwrodrawsyrryddion, sef hormonau a chemegau sy'n trosglwyddo signalau o fewn yr ymennydd.[2]
Diagnosis
[golygu | golygu cod]Yn aml caiff claf ei gyfeirio at seiciatrydd bydd yn defnyddio'r Llawlyfr Diagnostig ac Ystadegol o Anhwylderau Meddygol (DSM), cyfres o ganllawiau a ddatblygwyd gan Gymdeithas Seiciatrig America, i wneud diagnosis o anhwylder deubegwn. Mae seiciatrydd yn holi cwestiynau am hanes teuluol a hanes meddygol y claf ac yn nodi pethau fel oedran y claf, pryd y wnaeth ddioddef o'r symptomau gyntaf, a manylion am yr union symptomau cyn gwneud diagnosis.[3]
Triniaeth
[golygu | golygu cod]Meddyginiaeth
[golygu | golygu cod]Defnyddir lithiwm carbonad yn eang i sefydlogi tymer mewn pobl ag anhwylder deubegwn, ond gall fod iddo sgîl-effeithiau amhleserus, ac mae angen profion gwaed rheolaidd oherwydd gall lefelau uchel o lithiwm yn y gwaed fod yn beryglus. Defnyddir cyffuriau gwrthgonfylsiwn, megis falporad a carbamazepine, i sefydlogi newidiadau mewn tymer hefyd, weithiau pan na fydd y cyflwr yn ymateb i driniaeth gyda lithiwm carbonad. Gall y ddau gyffur hefyd gael eu cyfuno am driniaeth fwy effeithiol.[4]
Defnyddir cyffuriau gwrthiselder i drin episodau isel anhwylder deubegwn, yn yr un modd â thrin iselder clinigol.[4]
Trinnir episodau manig â chyffuriau gwrth-seicotig.[4]
Dolenni Allanol
[golygu | golygu cod]https://meddwl.org/cyflyrau/anhwylder-affeithiol-deubegwn/
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Anhwylder affeithiol deubegwn: Symptomau. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 6 Tachwedd, 2009.
- ↑ 2.0 2.1 Anhwylder affeithiol deubegwn: Achosion. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 5 Tachwedd, 2009.
- ↑ Anhwylder affeithiol deubegwn: Diagnosis. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 5 Tachwedd, 2009.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 Anhwylder affeithiol deubegwn: Triniaeth. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 10 Tachwedd, 2009.