Brwydr Leipzig
Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Rhan o | German Campaign of 1813 |
Dechreuwyd | 16 Hydref 1813 |
Daeth i ben | 19 Hydref 1813 |
Lleoliad | Leipzig |
Gwladwriaeth | Teyrnas Sachsen |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ymladdwyd Brwydr Leipzig, a elwir hefyd Brwydr y Cenhedloedd (Almaeneg: Völkerschlacht bei Leipzig) rhwng 16 a 19 Hydref 1813, rhwng byddin Ffrengig dan Napoleon Bonaparte a byddin y cyngheiriaid, yn cynnwys Awstriaid dan Dywysog Schwarzenberg, Prwsiaid dan Gebhard von Blücher a Rwsiaid dan Barclay De Tolly ymysg eraill. Hon oedd y frwydr fwyaf a ymladdwyd yn Ewrop cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Gorchfygwyd Napoleon, ac ychydig fisoedd wedyn bu raid iddo ymddiswyddo fel Ymerawdwr ac chael ei alltudio i Ynys Elba.
Wedi i ymosodiad Napoleon ar Rwsia yn 1812 fethu, ffurfiodd ei elynion y Chweched Cynghrair yn ei erbyn. Enillodd Napoleon ddwy fuddugoliaeth ym mis Mai 1813, yn Lützen a Bautzen. Yn yr hydref, gorfodwyd ef i ymladd ger Leipzig. Roedd ganddo tua 190,000 o filwyr, tra'r oedd gan y cyngheiriaid 200,000 ar 16 Hydref, yn cynyddu i 330,000. Roedd colledion y cyngheiriaid yn fwy na rhai Napoleon, 55,000 wedi eu lladd neu eu clwyfo i'w gymharu a 40,000 o filwyr Napoleon, ond cymerwyd 30,000 o Ffrancwyr yn garcharorion. Gorfodwyd Napoleon i encilio dros Afon Rhein.