Llywelyn Siôn
Llywelyn Siôn | |
---|---|
Ffugenw | Llywelyn Sion |
Ganwyd | 1540 Pen-y-bont ar Ogwr, Castell Llangewydd, Trelales |
Bu farw | c. 1615 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Un o'r olaf o Feirdd yr Uchelwyr, cyfieithydd, a chopïwr llawysgrifau oedd Llywelyn Siôn (1540 – 1615?). Roedd yn frodor o Langewydd, ger Pen-y-bont ar Ogwr, Morgannwg.[1]
Gwaith llenyddol
[golygu | golygu cod]Cedwir tua 14 o'i awdlau a chywyddau. Cyfeiria mewn un ohonynt at Tomos Llywelyn o'r Rhigos fel ei athro barddol. Nid oes llawer o werth llenyddol i'w farddoniaeth sy'n adlewyrchu'r gostyngiad mewn safonau yn y traddodiad barddol ym Morgannwg yn ail hanner yr 16g.
Ond roedd Llywelyn yn gopïwr llawysgrifau proffesiynol a chafodd ei gomisiynu i lunio sawl llyfr pwysig gan noddwyr uchelwrol ei fro. Ymhlith y 13 o lawysgrifau yn ei law sy'n aros heddiw ceir llawysgrif Llanofer 17, Llyfr Hir Amwythig, Llyfr Hir Llywarch Reynolds a Llyfr Hir Llanharan a'r unig gopi Cymraeg o'r Gesta Romanorum. Diolch i'w waith diwyd y cedwir y casgliadau gorau o gerddi mân feirdd Morgannwg yn ail hanner yr 16g, yn cynnwys nifer o garolau a chwndidau.[1]
Yn llawysgrif Llanofer 17 ceir cyfieithiad Cymraeg o rannau o'r testun Ffrangeg Canol Bestiaire d'Amour gan Richart de Fornival (1201-?1260).[2] Tybir ei fod yn waith Llywelyn Siôn ei hun. Dyma enghraifft o'r cyfieithiad hwnnw (diweddarwyd yr orgraff) sy'n sôn am yr uncorn:
- Ac am hynny y delaist di fi drwy aroglau, megis y delir yr uncorn drwy aroglau morwyn ieuanc, am nad oes yn y byd un anifail mor anodd i ddala ag ef, ac un corn sydd iddo ynghanol ei dalcen, ac nid oes na dyn nac anifail a feiddo ei aros ond morwyn ieuanc lân wyry. Cans pan glywo ef aroglau y forwyn a'u mwyn serchogrwydd, ef a ddaw ati, ac ef a ry[dd] ei ben yn ei harffed hi, ac yna y cwsg ef, a'r helwr call a edwyn hynny, a phan êl ef i hela y gosod ef forwyn ar ei ffordd ef.[3]
Ffugiadau Iolo Morganwg
[golygu | golygu cod]Ffrwyth dychymyg Iolo Morganwg yn unig yw'r honiad mai Llywelyn Siôn a luniodd gyfundrefn 'Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain', fel y dangosodd yr ysgolhaig G. J. Williams.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Bedo Hafesb · Bleddyn Ddu · Cadwaladr Cesail · Casnodyn · Rhisiart Cynwal · Wiliam Cynwal · Dafydd ab Edmwnd · Dafydd Alaw · Dafydd ap Gwilym · Dafydd ap Siencyn · Dafydd Benwyn · Dafydd Ddu o Hiraddug · Dafydd Gorlech · Dafydd Llwyd o Fathafarn · Dafydd Nanmor · Dafydd y Coed · Edward Dafydd · Deio ab Ieuan Du · Lewys Dwnn · Edward Maelor · Edward Sirc · Edward Urien · Einion Offeiriad · Gronw Ddu · Gronw Gyriog · Gruffudd ab Adda ap Dafydd · Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan · Gruffudd ap Dafydd ap Tudur · Gruffudd ap Llywelyn Lwyd · Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd · Gruffudd ap Tudur Goch · Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed · Gruffudd Gryg · Gruffudd Hiraethog · Gruffudd Llwyd · Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan · Guto'r Glyn · Gutun Owain · Gwerful Fychan · Gwerful Mechain · Gwilym Ddu o Arfon · Gwilym Tew · Hillyn · Huw Cae Llwyd · Huw Ceiriog · Huw Cornwy · Huw Llŷn · Huw Pennant (I) · Huw Pennant (II) · Hywel ab Einion Lygliw · Hywel ap Mathew · Hywel Cilan · Hywel Ystorm · Ieuan ap Huw Cae Llwyd · Ieuan ap Hywel Swrdwal · Ieuan Brydydd Hir · Ieuan Du'r Bilwg · Ieuan Dyfi · Ieuan Gethin · Ieuan Llwyd ab y Gargam · Ieuan Tew Ieuanc · Iocyn Ddu ab Ithel Grach · Iolo Goch · Iorwerth ab y Cyriog · Iorwerth Beli · Iorwerth Fynglwyd · Ithel Ddu · Lewis ab Edward · Lewys Daron · Lewys Glyn Cothi · Lewys Môn · Lewys Morgannwg · Llywarch Bentwrch · Llywelyn ab y Moel · Llywelyn ap Gwilym Lygliw · Llywelyn Brydydd Hoddnant · Llywelyn Ddu ab y Pastard · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch · Llywelyn Goch ap Meurig Hen · Llywelyn Goch y Dant · Llywelyn Siôn · Mab Clochyddyn · Madog Benfras · Maredudd ap Rhys · Meurig ab Iorwerth · Morus Dwyfech · Owain Gwynedd · Owain Waed Da · Prydydd Breuan · Tomos Prys · Gruffudd Phylip · Phylip Siôn Phylip · Rhisiart Phylip · Rhys Cain · Rhys Nanmor · Siôn Phylip · Siôn Tudur · Raff ap Robert · Robert ab Ifan · Robin Ddu ap Siencyn · Rhisierdyn · Rhisiart ap Rhys · Rhys ap Dafydd ab Einion · Rhys ap Dafydd Llwyd · Rhys ap Tudur · Rhys Brydydd · Rhys Goch Eryri · Sefnyn · Simwnt Fychan · Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan · Siôn ap Hywel Gwyn · Siôn Brwynog · Siôn Cent · Siôn Ceri · Sypyn Cyfeiliog · Trahaearn Brydydd Mawr · Tudur Aled · Tudur ap Gwyn Hagr · Tudur Ddall · Wiliam Llŷn · Y Mab Cryg · Y Proll · Yr Ustus Llwyd