Mynyddoedd Altai
Math | mynyddoedd nad ydynt yn gysylltiedig, yn ddaearegol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Casachstan, Rwsia, Mongolia, Gweriniaeth Pobl Tsieina |
Uwch y môr | 4,506 metr |
Cyfesurynnau | 49°N 89°E |
Hyd | 2,000 cilometr |
Cyfnod daearegol | Paleosöig |
Deunydd | craig fetamorffig |
- Erthygl am y mynyddoedd yw hon. Am ystyron eraill gweler Altai.
Cadwyn o fynyddoedd uchel yng nghanolbarth Asia mewn ardal lle mae ffiniau Rwsia, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Mongolia a Chasachstan yn cwrdd â lle gorwedd tarddleoedd afonydd Irtysh, Ob a Yenisei yw Mynyddoedd Altai, neu'r Altai (Rwseg: Алтай Altay; Mongoleg: Алтай Altay). Yr Altai yw mamwlad y pobloedd Twrcig. Mae'n ymestyn o'r gogledd-orllewin lle mae'n cyffwrdd â Mynyddoedd Sayan (i'r dwyrain), ac yn ymestyn oddi yno i gyfeiriad y de-ddwyrain hyd at tua 45° Gog. 99° Dwy., lle mae'n graddol golli uchder gan ymdoddi i lwyfandir uchel Anialwch y Gobi.
Ystyr yr enw, Altay/Altau/Altai yw "Mynydd(oedd) Aur" (al "aur" + tau "mynydd"). Mae'r teulu iaith Altaig yn cael ei enwi o'r gadwyn.
Mae ardal anferth 16,178 km² - Gwarchodfeydd Natur Altai a Katun, Llyn Teletskoye, Mynydd Belukha a Llwyfandir Ukok - wedi cael ei dynodi gan UNESCO yn Safle Treftadaeth y Byd dan yr enw Mynydoedd Euraidd yr Altai. Mae'n cynnwys enghreifftiau gwych o bob cynefin pwysig a geir yn Siberia ac yn gartref i sawl anifail prin fel llewpardiaid yr eira a'r argali'r Altai.
Mae copaon mawr yr Altai yn cynnwys Mynydd Khüiten, copa uchaf Mongolia. Ceir nifer o lynnoedd ac afonydd.